Cofrestru Tŵr Oeri

Cofrestru Tŵr Oeri
Crynodeb o'r Drwydded

Os ydych yn gyfrifol am reoli safle annomestig, rhaid i chi sicrhau eich bod yn hysbysu'r awdurdod lleol am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddol (dyfeisiadau hysbysadwy) ar y safle hwnnw.

 

Rhaid cyflwyno'r hysbysiad yn ysgrifenedig (gan gynnwys trwy ddulliau electronig) gan ddefnyddio ffurflen a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 

Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a gyflwynwyd o fewn mis o'r newid.

 

Os yw'r ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy, rhaid i chi hysbysu'r awdurdod lleol neu gyngor yr ynys neu'r cyngor dosbarth yn ysgrifenedig, a hynny cyn gynted â phosibl.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gall yr hysbysiad o dyrau oeri a chyddwysyddion anweddol ei lawrlwytho yma.

Ffïoedd ymgeisio

Nid oes tâl am y broses ymgeisio.

Y broses ymgeisio

Mae'r broses o gofrestru tŵr oeri yn syml iawn. Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn rhoi manylion eich safle ar y Gofrestr Tyrau Oeri. Mae'r gofrestr hon yn ddogfen gyhoeddus.

 

Pan fydd eich safle wedi'i gofrestru, fe allwn ei arolygu os ydym ni'n gyfrifol am orfodi iechyd a dioglewch arno, neu ei samplu fel rhan o'n rhaglen samplu. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd cofrestru yn effeithio ar eich sgôr risg neu nifer yr arolygiadau a gynhaliwn o'ch safle.

 

Sylwer, bydd angen i chi newid eich manylion cofrestru os yw eich busnes neu eich tŵr oeri yn newid mewn unrhyw ffordd.

 

Sylwer, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan, a gallem hefyd rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol? 

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gennym erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol.

Arweiniad arall

Mae gwybodaeth am glefyd y llengfilwyr, mesurau i'w atal a'r gyfraith ar gael gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 08/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Masnachol

Ffôn: 01633 647295

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig