Trwydded Safle - Mân Amrywiad

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i ddeiliaid trwydded wneud newidiadau i drwydded / tystysgrif clwb o dan broses mân amrywiad. Mae'r rhain yn newidiadau bach na fyddant yn effeithio'n anffafriol ar y nodau trwyddedu. 

Ni ellir defnyddio'r broses hon i:

  • estyn cyfnod y drwydded neu dystysgrif
  • trosglwyddo'r drwydded neu dystysgrif o un safle i'r llall
  • ar drwydded safle, enwi unigolyn fel goruchwylydd y safle
  • ychwanegu gwerthu, trwy adwerthu neu gyflenwi, alcohol fel gweithgaredd a awdurdodir gan drwydded neu dystysgrif
  • cynnwys yr amod trwydded amgen y cyfeirir ato yn adran 41D(3) trwydded safle
  •  awdurdodi gwerthu, trwy adwerthu neu gyflenwi, alcohol ar unrhyw adeg rhwng 11pm a 7am
  •  awdurdodi cynnydd yn yr amser ar unrhyw ddiwrnod lle gall alcohol gael ei werthu, drwy ei adwerthu neu ei gyflenwi.

Gellir defnyddio'r broses hon i:

  • amrywio a / neu ychwanegu gweithgareddau trwyddedadwy e.e. ychwanegu adloniant a reoleiddir at drwydded / tystysgrif gyfredol (ac eithrio gwerthu neu gyflenwi alcohol)
  • amrywio cynllun y safle / clwb
  • diwygio, tynnu ac ychwanegu amodau
  • amrywio'r oriau agor

Proses ymgeisio

  • Cyflwyno cais am fân amrywiad i drwydded lleoliad neu dystysgrif ar gyfer clwb i’r Awdurdod Trwyddedu, gyda ffi o £89.
  • Rhaid i'r ymgeisydd arddangos hysbysiad gwyn ar y safle am gyfnod o 10 diwrnod gwaith, yn dechrau ar y diwrnod gwaith yn dilyn yr amrywiad yn cael ei roi i'r Awdurdod Trwyddedu. Nid oes angen hysbysebu'r cais mewn papur newydd na chylchlythyr. Nid oes angen copïo'r cais i'r awdurdodau cyfrifol. 
  • Wrth ystyried y cais, rhaid i'r awdurdod trwyddedu ymgynghori ag awdurdodau perthnasol os oes unrhyw amheuaeth ynghylch effaith yr amrywiad ar y nodau trwyddedu. 
  • Rhaid i'r awdurdod trwyddedu ystyried hefyd unrhyw sylwadau perthnasol a dderbynia oddi wrth unigolion eraill o fewn y terfyn amser penodedig (10 diwrnod gwaith). 
  • Nid oes hawl i wrandawiad. Os yw'r awdurdod trwyddedu'n cael a derbyn sylwadau perthnasol, nid oes modd ad-dalu'r ffi ymgeisio. 
  • Rhaid i'r awdurdod trwyddedu aros tan ddiwedd y cyfnod 10 diwrnod gwaith cyn penderfynu ar y cais. Rhaid penderfynu ar y cais o fewn 15 diwrnod gwaith fan bellaf. 

Mathau o Fân Amrywiadau

  • mân newidiadau i strwythur neu gynllun safle 
  • mân addasiadau i oriau trwyddedu
  • tynnu amodau sydd allan o ddyddiad, sy'n amherthnasol neu nad oes modd eu gorfodi neu ychwanegu amodau a wirfoddolir
  • ychwanegu rhai gweithgareddau trwyddedadwy penodol

Ym mhob achos, y prawf cyffredinol yw a allai'r amrywiad arfaethedig effeithio er gwaeth ar unrhyw un o'r pedwar nod trwyddedu. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647286

Ebostl: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig