Trwydded Safle (alcohol ac adloniant) – Gwneud cais am Drwydded

Trwydded Safle (alcohol ac adloniant)
Crynodeb o'r Drwydded 

I ddarparu adloniant wedi’i reoleiddio a lluniaeth yn hwyr yn y nos, a gwerthu alcohol, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol os ydych yng Nghymru a Lloegr.

Meini Prawf Cymhwysedd

Caiff unrhyw un o’r canlynol wneud cais am drwydded safle:

 

  • unrhyw un sy’n cynnal busnes ar y safle y mae’r drwydded yn gysylltiedig â hi 
  • clwb cydnabyddedig
  • elusen 
  • corff y gwasanaeth iechyd
  • rhywun sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas ag ysbyty annibynnol 
  • prif swyddog heddlu yng Nghymru a Lloegr
  • unrhyw un sy'n cyflawni swyddogaeth statudol o dan hawl y Frenhines
  • rhywun o sefydliad addysgol
  • unrhyw un arall a ganiateir

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed.

Crynodeb o’r Rheoliad

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid anfon ceisiadau i'r awdurdod trwyddedu ar gyfer yr ardal y mae'r safle wedi'i leoli ynddi.

 

Rhaid i bob cais ddilyn fformat penodol a rhaid cynnwys unrhyw ffi ofynnol ynghyd ag amserlen weithredu, cynllun o’r safle a ffurflen ganiatâd gan oruchwyliwr y safle (yn achos ceisiadau lle y bydd gwerthu alcohol yn weithgaredd trwyddedadwy).

 

Bydd amserlen weithredu yn cynnwys manylion:

 

  • y gweithgareddau trwyddedadwy
  • yr amseroedd pan fydd y gweithgareddau'n cael eu cynnal 
  • unrhyw amseroedd eraill pan fydd y safle ar agor i’r cyhoedd 
  • yn achos ymgeiswyr sy’n dymuno cael trwydded gyfyngedig, y cyfnod y mae angen y drwydded ar ei gyfer
  • gwybodaeth am oruchwyliwr y safle 
  • a fydd unrhyw alcohol sydd i’w werthu yn cael ei yfed ar y safle ynteu oddi ar y safle, neu’r ddau
  • y camau y bwriedir eu cymryd i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n ofynnol

Gall fod yn ofynnol i ymgeiswyr hysbysebu eu cais a rhoi rhybudd o’r cais i unrhyw unigolyn neu gorff cyfrifol arall, e.e. yr awdurdod lleol, prif swyddog yr heddlu neu’r awdurdod tân ac achub.

 

Rhaid i’r cais gael ei ganiatáu gan yr awdurdod trwyddedu, a gall fod amodau ynghlwm wrtho. Rhaid cynnal gwrandawiad os cyflwynir unrhyw sylwadau ynglŷn â’r cais. Os caiff gwrandawiad ei gynnal, gall y drwydded gael ei chaniatáu neu ei chaniatáu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau trwyddedadwy sydd wedi’u rhestru yn y cais gael eu heithrio neu gall y cais gael ei wrthod.

 

Bydd yr awdurdod trwyddedu yn rhoi hysbysiad o'i benderfyniad i’r ymgeisydd, unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau perthnasol (h.y. sylwadau nad oeddent yn wacsaw neu'n flinderus) a phrif swyddog yr heddlu.

 

Hefyd, gellir gwneud ceisiadau i amrywio neu drosglwyddo trwydded. Gall fod angen cynnal gwrandawiad os cyflwynir sylwadau neu os nad yw amodau’n ymwneud â throsglwyddo wedi cael eu bodloni.

 

Ceisiadau eraill y gellir eu gwneud yw ceisiadau am hysbysiad awdurdod dros dro yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd neu fethdaliad deiliad trwydded neu geisiadau adolygu.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydyw. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.

Gwneud cais ar-leinEUGO logo

Fe allwch wneud cais am Drwydded Safle (alcohol ac adloniant) ar gov.uk.

 

Gallwch lawr lwytho copi o ganllawiau ar gyfer safleoedd sy’n gweini alcohol yma.

 

Gallwch lawr lwytho gwybodaeth ynghylch sut i lenwi eich ffurflen gais am drwydded yma.

 

Mae Rhestr o Ymgyngoreion hefyd ar gael.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os bydd cais am drwydded yn cael ei wrthod, gall yr ymgeisydd apelio.

 

Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol yn y lle cyntaf.

 

Os gwneir cais gan brif swyddog yr heddlu, fel y manylir isod, a bod camau dros dro'n cael eu cymryd gan yr awdurdod trwyddedu, cewch gyflwyno sylwadau. Rhaid cynnal gwrandawiad o fewn 48 awr o dderbyn eich sylwadau.

 

Caiff deiliad trwydded apelio yn erbyn unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth drwydded, penderfyniad i wrthod cais amrywio, penderfyniad i wrthod cais trosglwyddo neu benderfyniad i atal gweithgaredd neu atal unigolyn rhag bod yn oruchwyliwr safle.

 

Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Cwynion gan Ddefnyddwyr

Mae Gwybodaeth gan y Swyddfa Gartref a'r Sefydliad Trwyddedu ar gael i drigolion sydd o'r farn bod safle'n achosi problem.

 

Caiff parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i adolygu trwydded y safle. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.

 

Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Camau Unioni Eraill

Gall prif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal yr heddlu y mae'r safle wedi'i leoli ynddi wneud cais i'r awdurdod trwyddedu i adolygu'r drwydded os yw'r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch swyddog heddlu wedi cyflwyno tystysgrif sy'n datgan ei fod o'r farn bod y safle'n gysylltiedig ag anhrefn neu droseddu difrifol neu'r ddau. Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal a chaiff deiliad y drwydded a phartïon eraill â buddiant gyflwyno sylwadau.

 

Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno hysbysiad i'r awdurdod trwyddedu os yw o'r farn y gallai trosglwyddo trwydded i rywun arall, trwy gais amrywio, danseilio amcanion atal troseddu. Rhaid rhoi rhybudd o'r fath o fewn 14 diwrnod o dderbyn hysbysiad o'r cais.

 

Gall parti â buddiant neu gorff cyfrifol gyflwyno sylwadau mewn perthynas â chais am drwydded neu ofyn i'r corff trwyddedu adolygu trwydded.

 

Gall parti â buddiant neu awdurdod cyfrifol wneud cais i'r awdurdod trwyddedu adolygu trwydded y safle. Caiff gwrandawiad ei gynnal gan yr awdurdod trwyddedu.

 

Gall prif swyddog yr heddlu gyflwyno sylwadau i'r awdurdod trwyddedu er mwyn adolygu trwydded os yw'r safle wedi'i drwyddedu i werthu alcohol drwy fanwerthu a bod uwch aelod o'r heddlu wedi cyflwyno tystysgrif yn datgan ei fod o'r farn bod y safle'n gysylltiedig ag anhrefn neu droseddu difrifol, neu'r ddau.

 

Gall parti â buddiant neu awdurdod perthnasol a gyflwynodd sylwadau perthnasol apelio yn erbyn caniatáu trwydded neu yn erbyn unrhyw amod, amrywiad, gweithgaredd trwyddedadwy neu benderfyniadau am oruchwyliwr y safle.

 

Rhaid cyflwyno apêl i Lys Ynadon o fewn 21 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad.

Cymdeithasau Masnach 

Sylwch - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen Y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 14/10/2021
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647284

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk 

Nôl i’r Brig