Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012

Fe wnaeth Deddf Cerddoriaeth Fyw 2012 dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar 8 Mawrth 2012, a daeth i rym ar 1 Hydref 2012.  Rhestrir y prif ddarpariaethau isod:

  • Diddymu'r angen i gael trwydded i ddarparu cerddoriaeth fyw nas chwyddir, sydd yn cael ei chwarae rhwng 8am ac 11pm ymhob lleoliad, yn amodol ar hawl yr awdurdod trwyddedu i osod amodau ynghylch cerddoriaeth fyw yn dilyn adolygiad o drwydded safle neu dystysgrif safle clwb yn ymwneud â safle sydd wedi cael caniatâd i gyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle
  • Diddymu'r angen i gael trwydded i ddarparu cerddoriaeth fyw nas chwyddir sydd yn cael ei chwarae rhwng 8am ac 11pm gerbron cynulleidfaoedd o hyd at uchafswm o 200 o bobl ar safle a ganiatawyd i gyflenwi alcohol i'w yfed ar y safle, yn amodol ar hawl awdurdod trwyddedu i osod amodau ynghylch cerddoriaeth fyw yn dilyn adolygiad o drwydded safle neu dystysgrif safle clwb 
  • Diddymu'r angen i gael trwydded i ddarparu cerddoriaeth fyw nas chwyddir sydd yn cael ei chwarae rhwng 8am ac 11pm gerbron cynulleidfaoedd o hyd at uchafswm o 200 o bobl mewn gweithleoedd nad ydynt fel arall wedi eu trwyddedu dan Ddeddf (neu sydd â thrwydded i ddarparu lluniaeth yn hwyr yn y nos yn unig) 
  • Diddymu'r angen i gael trwydded i ddarparu cyfleusterau adloniant
  • Ehangu'r esemptiadau trwyddedu ar gyfer cerddoriaeth fyw sy'n rhan annatod o berfformiad dawnsio Morris neu ddawnsio tebyg, fel bod yr esemptiad yn berthnasol i gerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth sydd wedi ei recordio yn lle cerddoriaeth fyw nas chwyddir.

Gellir gweld y Ddeddf yn llawn ar wefan legislation.gov.uk.

Os ydych angen cyngor ynghylch y darpariaethau hyn, mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Trwyddedu.

Diwygiwyd Diwethaf: 01/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig