Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat

Trwydded ddeuol yw hon sy'n caniatáu i'r deiliad yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat sydd wedi'u trwyddedu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Dim ond pan fydd yr Awdurdod yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i gael trwydded o'r fath y bydd y drwydded yn cael ei chyflwyno.

Mae bathodyn yn cael ei roi i yrwyr trwyddedig sy'n cynnwys llun ohonynt, rhif y drwydded a'r dyddiad dirwyn i ben. Rhaid i yrwyr wisgo'r bathodyn bob amser pan fyddant yn gweithio, a rhaid iddynt weithio drwy weithredwr hurio preifat os ydynt yn gyrru cerbyd hurio preifat.

Mae amryw wiriadau'n cael eu cyflawni i fodloni'r maen prawf hwn, sef:

  • Cwblhau prawf rhifedd a llythrennedd sylfaenol ar lefel foddhaol
  • Gwiriad Datgelu Manylach gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol
  • Ymholiad â'r DVLA ynghylch trwydded yrru'r ymgeisydd
  • Archwiliad Meddygol, hyd at safon grŵp II, wedi'i gynnal gan feddyg teulu'r ymgeisydd

Mae'n ofynnol cwblhau'r prawf rhifedd a llythrennedd sylfaenol ar lefel foddhaol ar gyfer gwneud cais - ni fyddwn yn rhoi pecyn cais i unigolyn os nad yw'n bodloni'r gofyniad hwn.

Euogfarnau neu rybuddion

Pan fyddwch yn cyflwyno cais am drwydded i yrru Cerbyd Hacni neu Hurio Preifat, gofynnir i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau neu rybuddion sydd gennych, gan gynnwys rhai yr ystyrir eu bod ‘wedi darfod’ dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, gan fod y Cyngor wedi'i eithrio o'r ddeddf at ddiben trwyddedu gyrwyr.

Ffïoedd

Rhaid adnewyddu'r drwydded yn flynyddol. Gallwch lawrlwytho'r rhestr bresennol o Ffïoedd Trwyddedu ar gyfer Trwyddedau Cerbydau Hacni a Hurio Preifat o'r fan hon.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am drwyddedu cerbydau hacni a hurio preifat, cysylltwch â'r Adran Drwyddedu, Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, New Inn, Pont-y-pŵl NP4 0LS.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 12/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing Team

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig