Safleoedd Carafannau a Gwersylla - Gwneud Cais am Drwydded

Safleoedd Carafannau a Gwersylla
Crynodeb o'r Drwydded

I redeg safle carafannau a gwersylla, bydd angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.

 

Gallai amodau fod ynghlwm wrth y drwydded yn ymwneud ag unrhyw rai o'r canlynol:

 

  • cyfyngu pryd y gall y carafannau fod ar y safle i bobl fyw ynddynt neu gyfyngu ar nifer y carafannau a all fod ar y safle ar unrhyw adeg benodol
  • rheoli'r mathau o garafannau ar y safle
  • rheoli'r mannau lle caiff y carafannau eu gosod neu reoleiddio'r defnydd o gerbydau ac adeileddau eraill, gan gynnwys pebyll
  • sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i wella'r tir, gan gynnwys plannu/ailblannu coed a llwyni
  • mesurau diogelwch rhag tân ac ymladd yn erbyn tân
  • sicrhau bod offer, gwasanaethau a chyfleusterau glanweithiol yn cael eu cyflenwi a'u cynnal
Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid bod hawl gan yr ymgeisydd i ddefnyddio'r tir fel safle carafannau.

 

Ni chaiff trwyddedau eu cyflwyno i ymgeiswyr sydd wedi cael trwydded safle wedi'i diddymu o fewn tair blynedd o'r cais presennol.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

Proses Gwerthuso Cais

Rhaid cyflwyno ceisiadau am drwyddedau safle i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sef yr awdurdod lleol y mae'r tir wedi'i leoli yn ei ardal.

 

Rhaid cyflwyno ceisiadau yn ysgrifenedig, dylent roi manylion y tir y mae'r cais yn ymwneud ag ef ac unrhyw wybodaeth arall y mae'r awdurdod lleol yn gofyn amdani.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nac ydyw. Er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gan eich awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r awdurdod. Cewch wneud hyn ar-lein os cyflwynoch y cais trwy wasanaeth UK Welcomes. 

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gall y cais am ffurflen trwydded safle ar gael i'w lawrlwytho yma.

Camau Unioni ar gyfer Cais Aflwyddiannus

Fe'ch cynghorir i drafod unrhyw broblem gyda'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.

 

Os yw cais gan ddeiliad trwydded i addasu amod yn cael ei wrthod, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad gwrthod a rhaid cyflwyno hysbysiad o'r apêl i'r cyngor dosbarth lleol.

Camau Unioni ar gyfer Deiliaid Trwydded

Fe'ch cynghorir i drafod unrhyw broblem gyda'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf.

 

Os bydd deiliad trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth drwydded, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 dwrnod o gyflwyno'r drwydded.

 

Gall y cyngor dosbarth lleol addasu amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid iddo roi cyfle i ddeiliaid trwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig. Os yw deiliad trwydded yn anghytuno â'r newidiadau, caiff apelio i'r Llys Ynadon lleol. Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o'r addasiad a rhaid cyflwyno hysbysiad o'r apêl i'r cyngor dosbarth lleol.

Apeliadau a Chwynion

Os ydych am wneud cwyn, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (gyda phrawf danfon). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn byw yn y DU, bydd Cyngor ar Bopeth yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Camau Unioni Eraill

E.e. ynghylch sŵn, llygredd ac ati. Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/03/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Commercial Services

Ffôn: 01633 647295

E-bost: commercial.services@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig