Deddf Hapchwarae 2005

Coronafirws (COVID-19) Gwybodaeth am Wasanaethau

Ar 26 Mawrth 2020 daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Cymru) 2020 i rym, gan ddisodli rheoliadau blaenorol sy'n ymwneud â chyfyngiadau yng Nghymru. Mae hyn yn gofyn am roi'r gorau i lawer o Weithgareddau Trwyddedig. Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau ar yr adeg hon.

Lluniwyd canllawiau gan Lywodraeth Cymru i reoli toiledau a ddefnyddir gan y cyhoedd yn ystod pandemig Coronafirws, mewn modd diogel. Darllen y canllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn cychwyn ar Rybudd Lefel 0 o 7 Awst 2021, mae gwybodaeth benodol yn ymwneud â chyfyngiadau Lefel 0 bellach ar gael hefyd, gweler y dolenni isod:

Mae'r tîm Trwyddedu yn gofyn, am nawr, bod yr holl geisiadau a'r dogfennau gofynnol yn cael eu cyflwyno trwy e-bost i licensing@torfaen.gov.uk. Rhaid i bob cais gael ei gwblhau'n llawn a rhaid cynnwys rhif ffôn fel y gallwn gysylltu â'r ymgeisydd i gymryd taliad am y ffi ymgeisio berthnasol.

Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn pob cais trwy e-bost a byddwn yn darparu rhif cyfeirnod unigryw ar gyfer y cais. Yna bydd Galw Torfaen, sef canolfan gyswllt y Cyngor yn galw’r ymgeisydd i gymryd y taliad angenrheidiol, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod unigryw’r cais.

Sylwch na fydd cais yn cael ei ystyried yn ddilys ac na fydd yn cael ei gwblhau'n llawn hyd nes y derbynnir y taliad. Rhaid derbyn ceisiadau adnewyddu a thaliad cyn i'r drwydded ddod i ben.

Ar hyn o bryd mae'r tîm yn gweithio o ddydd i ddydd yn dilyn arweiniad fel y'i darperir a gall pob un o'r uchod newid ar unrhyw adeg benodol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau wrth i ni gael clywed amdanynt a diolchwn am eich cydweithrediad a'ch amynedd.

Y dull cyswllt a ffefrir gennym yn ystod yr amser hwn yw trwy e-bost i licensing@torfaen.gov.uk

Deddfwriaeth Hapchwarae

Cafodd y Ddeddf Hapchwarae sêl bendith y Senedd ym mis Ebrill 2005 ac fe gyflwynodd newidiadau mawr i'r ffordd y caiff hapchwarae ei drwyddedu ym Mhrydain Fawr. Roedd y Ddeddf yn sefydlu Comisiwn Hapchwarae i reoleiddio'r mathau o gyfleusterau hapchwarae a gynigir a'r bobl a'r sefydliadau sy'n eu cynnig. 

Hefyd, rhoddodd bwerau newydd i awdurdodau trwyddedu sydd eisoes yn gyfrifol am roi Deddf Trwyddedu 2003 ar waith. 

Mae Torfaen yn gyfrifol am fonitro a gorfodi'r holl Drwyddedau y mae'n eu cyflwyno, yn unol â'r tri Amcan Trwyddedu isod:-

  • Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anhrefn, bod yn gysylltiedig â throseddu neu anhrefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi troseddu;
  • Sicrhau bod hapchwarae yn cael ei gynnal mewn ffordd deg ac agored; a 
  • Diogelu plant a phobl eraill sy'n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae.

Hysbysiad cymeradwyaeth y Datganiad o Bolisi Trwyddedu - Deddf Hapchwarae 2005

Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeisdref Sirol Torfaen ar 19 Hydref 2021, gan ymarfer ei bwerau dan Ddeddf Hapchwarae 2005, wedi cymeradwyo’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu. Cyhoeddir y Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar 22 Rhagfyr 2021 a daw i rym ar 31 Ionawr 2022.

Bydd y Datganiad Polisi Trwyddedu ar gael i’w archwilio yn y Tŷ Blaen Torfaen, Ffordd Panteg, Y Dafarn Newydd, NP4 0LS, o ddyddiad y cyhoeddiad rhwng 9am a 1pm o’r gloch ddydd Llun i ddydd Gwener. Medrir hefyd archwilio’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu ar wefan y Cyngor.

Dyddiad: 15 Rhagfyr 2021
Rachel Jowitt - Prif Swyddog - Gwasanaeth Cymdofaeth, Gwarchod y Cyhoedd, a Chynllunio

Cyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu

Mae’n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn ei rôl fel yr Awdurdod Trwyddedu o dan Ddeddf Gamblo 2005, baratoi a chyhoeddi datganiad o’r egwyddorion y mae’n bwriadu eu defnyddio wrth arfer ei swyddogaethau dan y Ddeddf yn ystod pob cyfnod olynol o dair blynedd, yn ystod y cyfnod hwnnw. Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Cyngor Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu – Deddf Gamblo 2005 sy’n cael ei gymhwyso yn ystod y cyfnod a ddechreuodd ar 31 Ionawr 2022 ac a ddaw i ben ar 30 Ionawr 2025.

Ecsbloetio Plant yn Rhywiol - Adnabod yr arwyddion

Er mwyn helpu i gadw plant yn ddiogel mae Heddlu Gwent unwaith eto yn annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus am y math hwn o droseddoldeb, ac i gysylltu â hwy drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng gydag unrhyw wybodaeth sydd ganddynt. Er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd adnabod arwyddion camfanteisio a cham-drin mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi tudalen ar y we.

Byddai'n well gan yr Heddlu glywed gan aelodau o'r cyhoedd sy'n rhoi gwybod am faterion nad ydynt yn achosion o gamfanteisio'n rhywiol ar blant yn y pen draw, yn hytrach na pheidio cael eu galw o gwbl.

Gwybodaeth am Ffïoedd

Mae rhestr o Ffïoedd Trwyddedu ar gyfer trwyddedau yn Nhorfaen ar gael yma.

Gwybodaeth i'r cyhoedd ac i fusnesau 

Mae'r Comisiwn Gamblo wedi cyhoeddi'r canllawiau canlynol:

Canllawiau Penodol ar gyfer y Sector

Tafarndai, Clybiau a safleoedd Didrwydded

Amodau a Chodau Ymarfer

Oriau Agor y Swyddfa

Oriau agor y tîm trwyddedu ar gyfer galwyr personol i'r swyddfa yn Y Dafarn Newydd yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:00 am a 12:00 hanner dydd. Os yw hyn yn achosi anawsterau, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gwneud apwyntiad i ymweld y tu allan i'r oriau hyn. Cysylltwch â'r swyddfa i drefnu hyn. Rydym ar gael ar y ffôn (01633 647286) rhwng 9:00am a 4:30pm.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler y dudalen ar y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon. 

Diwygiwyd Diwethaf: 25/05/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Y Tîm Trwyddedu

Ffôn: 01633 647286

E-bost: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig