Cofrestru Safleoedd Bwyd - Gwneud Cais am Drwydded

Cofrestru Safleoedd Bwyd
Crynodeb o'r Drwydded

I storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar safle, mae angen i chi gofrestru gyda'r awdurdod lleol. Mae safleoedd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturiau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd.

 

Mae'n bosibl y bydd angen i rai gweithgynhyrchwyr sy'n trafod cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu'r Gwasanaeth Hylendid Cig, yn hytrach na'u cofrestru. Os nad ydych yn siwr a oes angen i'ch busnes gael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, cysylltwch â'ch awdurdod lleol.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ar Hylendid Bwydydd, Erthygl 6(2)

Sut i ymgeisio

Os ydych chi am gofrestru safle bwyd, ewch i dudalen Cofrestru Busnes Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n cynnig proses ar lein. Byddant yn sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei hanfon atom.

 

Os na fedrwch chi gwblhau’r broses hon ar lein, cysylltwch â Cyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu businessdirect@torfaen.gov.uk a gallwn eich helpu.

Ffïoedd ymgeisio

Nid oes tâl am wneud cais i gofrestru safle bwyd.

Y broses ymgeisio

Ar y ffurflen gofrestru, rhaid i chi roi tic ymhob blwch sy'n berthnasol i'ch busnes, ateb yr holl gwestiynau a rhoi'r holl wybodaeth y gofynnwyd amdani. Dylai busnesau tymhorol sy'n gweithredu am gyfnod penodol bob blwyddyn roi dyddiadau y byddant ar agor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau bydd eich awdurdod lleol yn eich helpu. Mae'n drosedd rhoi gwybodaeth y gwyddoch ei bod yn ffug.

 

Rhaid anfon y ffurflen gofrestru i'r awdurdod lleol y mae'r safle wedi'i leoli ynddo. Os anfonir y ffurflen i'r cyfeiriad anghywir, ni ddaw eich cais i rym hyd nes bydd yn cyrraedd y lleoliad cywir. Os byddwch yn defnyddio safleoedd mewn ardaloedd mwy nag un awdurdod lleol, rhaid i chi gofrestru gyda phob awdurdod ar wahân.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y gallwch weithredu fel pe bai eich cais wedi'i ganiatáu os na fyddwch wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed, sef 28 diwrnod o gyflwyno eich cais gorffenedig i'r awdurdod cywir.

Apeliadau a Chwynion

Gan fod cofrestru yn awtomatig, nid oes gweithdrefn apelio.

 

Os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol, dylech ddilyn gweithdrefn gwyno'r awdurdod.

Cymdeithasau Masnach

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig