Cymeradwyo Safleoedd Bwyd

Os yw eich busnes bwyd yn gwneud, yn paratoi neu'n trafod bwyd sy'n deillio o anifeiliaid ac yn ei gyflenwi i safleoedd eraill (hyd yn oed rhai rydych chi'n berchen arnynt) fel rhan sylweddol o'ch busnes cyfan, gallai fod angen Cymeradwyaeth Ffurfiol arnoch yn hytrach na chofrestru'r safle bwyd gyda'r Cyngor. Os lladd-dŷ neu ffatri torri cig yw eich busnes, bydd angen i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ei gymeradwyo.

Mae Rheoliad Rhif 853/2004 y Gymuned Ewropeaidd yn mynnu bod gweithgynhyrchwyr bwydydd sy'n cynnwys cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid, fel llaethdai, gweithgynhyrchwyr cynhyrchion cig neu farchnadoedd cyfanwerthu pysgod, yn cael cymeradwyaeth yr awdurdod lleol cyn iddynt ddechrau masnachu.

Mae cymeradwyaeth yn fath o 'drwydded' i unrhyw fusnes sy'n dymuno trafod, paratoi neu gynhyrchu bwydydd penodol, a rhaid rhoi cymeradwyaeth (naill ai'n llawn neu'n amodol) cyn i'r bwyd allu cael ei werthu. Rhaid i safleoedd cymeradwy fodloni safonau hylendid bwyd uchel a gwneud yn siwr eu bod yn gallu olrhain o ble y daeth eu holl gynhwysion, fel y gallant sicrhau bod eu bwyd yn ddiogel. 

Rhaid i safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol arddangos nod iechyd hirgrwn ar eu cynhyrchion (neu gall tystysgrif hylendid gyd-fynd â bwydydd os ydynt yn mynd i ffatri fwyd arall). Yna, gall unrhyw un sy'n prynu bwyd, boed hynny o'r archfarchnad neu drwy ei swmp brynu ar gyfer eu busnes, weld bod y bwyd risg uchel y maent yn ei brynu yn cyrraedd safonau uchel o ran hylendid bwyd. 

Mae gan bob Awdurdod Lleol yn y wlad (a mannau ar draws yr Undeb Ewropeaidd) god unigryw sy'n sicrhau bod modd sefydlu tarddiad y bwyd bob amser. Mae hyn yn bwysig iawn ar gyfer sicrhau diogelwch bwydydd risg uchel, gan ei fod yn golygu bod modd olrhain y bwydydd risg uchel hyn yn ôl yn uniongyrchol i'r ffatrïoedd a'u cynhyrchodd.

Os hoffech wneud cais am gymeradwyaeth safle, mae'r ffurflenni cais a'r wybodaeth angenrheidiol i'w cael yn y fan hon. 

Os oes gennych gŵyn am fwyd a brynoch oddi wrth fusnes bwyd, byddem bob amser yn cynghori eich bod yn cysylltu â'r masnachwr eich hun yn y lle cyntaf – mae'r rhan fwyaf o fusnesau bwyd yn barod i amnewid y bwyd neu roi ad-daliad i chi. 

Rydym yn ymchwilio i gwynion ynghylch bwyd, a gallwn weithredu lle bo'r cwynion hynny wedi codi oherwydd hylendid bwyd gwael ac yn y blaen. Os ydych yn byw yn y DU, gall Cyngor ar Bopeth roi cyngor i chi hefyd. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU

Os ydych yn pryderu am fusnes bwyd ac yn amau nad yw wedi'i gymeradwyo fel sy'n ofynnol neu nad yw'n cael ei gynnal yn gywir ac yn hylan, dylech gysylltu â ni fel y gallwn gynnal ymchwiliad.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig