Trwydded ar gyfer Anifail Gwyllt Peryglus - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded ar gyfer Anifail Gwyllt Peryglus
Crynodeb o'r Drwydded

I gadw anifail gwyllt peryglus, mae angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol. Bydd nifer yr anifeiliaid y ceir eu cadw yn cael ei nodi ar y drwydded, ynghyd ag amodau penodol eraill.

 

Caiff awdurdod lleol awdurdodi swyddog, milfeddyg neu ymarferydd i arolygu safleoedd trwyddedig. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.

 

Nodir isod y wybodaeth y mae ei hangen arnoch i benderfynu a oes angen trwydded arnoch, ynghyd â'r safonau trwyddedu y mae'n rhaid i chi eu cyflawni. Defnyddir yr un ffurflen gais ar gyfer y broses adnewyddu.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976

 

Atodlen wedi'i diweddaru o'r hyn a ystyrir yn anifail gwyllt peryglus

 

Arweiniad DEFRA

Sut i wneud cais

Os ydych yn dymuno gwneud cais am drwydded neu newid manylion trwydded bresennol, gellir lawrlwytho'r ffurflen gais o'r fan hon.

 

Mae ein hamodau safonol ar gyfer anifeiliaid gwyllt peryglus i'w cael yn y fan hon.

Ffïoedd Ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio.

Y broses ymgeisio

Rhaid i unrhyw gais a gyflwynir i ni am drwydded gael ei wneud (heblaw mewn amgylchiadau eithriadol) gan y sawl sy'n bwriadu bod yn berchen ar yr anifail a meddu arno, a rhaid iddo:-  

 

  1. Roi manylion rhywogaethau a nifer yr anifeiliaid sydd i'w cadw;

  2. Rhoi manylion y safle lle y bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw fel arfer;
  3. Bod yn gais ar gyfer y safle hwnnw;

  4. Cael ei wneud gan unigolyn 18 oed neu'n hŷn sydd heb ei anghymhwyso rhag dal trwydded o dan y Ddeddf; a
  5. Chynnwys ffi a bennir gennym ni ar lefel ddigonol i dalu'r costau uniongyrchol ac anuniongyrchol sy'n gysylltiedig.  

Ni allwn gymeradwyo ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofynion hyn.

 

Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen gais, byddwn yn trefnu ymweld â chi gyda milfeddyg er mwyn asesu safonau eich safle. Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gydymffurfio ag amodau'r drwydded.

 

Efallai na fyddwn yn rhoi trwydded oni bai:-

 

(a) Y ceir sicrwydd na fyddai rhoi trwydded yn mynd yn groes i fudd y cyhoedd am resymau diogelwch, niwsans neu resymau eraill;

(b)  Bod yr ymgeisydd yn addas;

(c)  Y bydd yr anifeiliaid:-

  • yn cael eu cadw mewn llety diogel sydd o faint addas i'r anifeiliaid a gedwir ac sy'n addas o ran gwneuthuriad, tymheredd, golau, awyr iach, draenio a glendid, a
  • bod ganddynt fwyd, diod a deunydd gwely addas a digonol ac yr ymwelir â nhw'n rheolaidd;

(ch)  Bod yr anifeiliaid yn cael eu diogelu'n briodol os digwydd tân neu argyfwng arall;

(d)  Bod yr anifeiliaid yn destun rhagofalon er mwyn rheoli clefydau heintus;

(dd)   Bod cyfleusterau ymarfer digonol ar gael i'r anifeiliaid.

 

Mae'n ofynnol i ni bennu amodau sydd:-

 

(a)  Yn mynnu bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw dim ond gan yr unigolion a enwir ar y drwydded;

(b)  Yn mynnu bod yr anifeiliaid yn cael eu cadw fel arfer ar y safle a enwir ar y drwydded;

(c)  Yn mynnu na chaiff yr anifeiliaid eu symud o'r safle hwnnw heblaw mewn amgylchiadau a ganiateir yn y drwydded;

(ch)  Yn mynnu bod deiliad y drwydded a'r sawl sy'n cadw'r anifeiliaid yn meddu ar yswiriant ar gyfer atebolrwydd am ddifrod a achosir gan yr anifeiliaid, a'n bod ni'n fodlon â'r yswiriant hwnnw;

(d)  Yn cyfyngu ar rywogaethau a nifer yr anifeiliaid;

(dd)  Yn mynnu bod deiliad y drwydded yn sicrhau bod copi o'r drwydded ar gael i unigolion sydd â hawl i gadw'r anifeiliaid; ac

(e)  Unrhyw amodau eraill sy'n angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn sicrhau'r amcanion a nodir ym mharagraffau (c) - (dd) a restrir o dan 'materion i'w hystyried' uchod.

 

Gallwn ychwanegu unrhyw amodau eraill fel y bo'n briodol yn ein tyb ni, ond os yw'r amod yn ymwneud â chaniatáu i fynd â'r anifail i ardal Awdurdod Lleol arall am fwy na 72 awr, rhaid i ni ymgynghori â'r Awdurdod Lleol hwnnw. 

 

Gallwn ddirymu neu addasu amodau nad yw'n ofynnol o dan y Ddeddf iddynt fod ynghlwm wrth y drwydded, neu gallwn ychwanegu amodau newydd. Daw'r amrywiadau hyn i rym ar unwaith os yw deiliad y drwydded yn gofyn amdanynt, ond fel arall, rhaid i ni hysbysu deiliad y drwydded yn ysgrifenedig a chaniatáu amser rhesymol ar gyfer cydymffurfio â nhw.

 

Pan fydd eich safle wedi cael ei drwyddedu, byddwn yn arolygu fel y bo'n briodol, ond gallwn hefyd gynnal ymweliadau achlysurol.

 

Fel rhan o broses y drwydded, bydd angen i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r safle lle rydych yn cadw'r anifeiliaid.

 

Sylwch, gallai rhai o fanylion eich safle gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu eich manylion gyda chyrff statudol eraill fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.  

 

Sylwch, gallai'r broses gymeradwyo gyfan gymryd mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau arolygu angenrheidiol.

Troseddau a Chosbau

Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddyfarnu'n euog o gadw anifail a enwir yn Neddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 heb drwydded i wneud hynny, neu unrhyw un sy'n cael ei ddyfarnu'n euog o fethu â chydymffurfio ag un o amodau trwydded, yn cael dirwy nad yw'n fwy na £2,000.

 

Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddyfarnu'n euog o rwystro neu achosi oedi i Arolygydd neu Ymarferydd Milfeddygol Awdurdodedig neu Filfeddyg yn cael dirwy nad yw'n fwy na £2,000.

 

Os bydd unigolyn yn cadw anifail heb drwydded neu os bydd unigolyn yn methu â chydymffurfio ag amod trwydded, gallai Arolygwyr o'r Cyngor atafaelu'r anifail a naill ai ei gadw neu drefnu iddo gael ei ddinistrio neu ei waredu (i sw neu fan arall) heb iawndal i'r perchennog.

 

Os bydd y Cyngor yn mynd i gostau wrth atafaelu, cadw neu waredu anifail, bydd yr unigolyn a oedd yn geidwad yr anifail yn atebol am dalu'r costau hynny.

 

Os ceir unigolyn yn euog o drosedd o dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 neu o dan:  

 

  • Ddeddf Gwarchod Anifeiliaid 1911 i 1964;
  • Deddf Gwarchod Anifeiliaid (Yr Alban) 1912 i 1964;
  • Deddf Anifeiliaid Anwes 1951;
  • Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963;
  • Deddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 i 1970;
  • Deddf Bridio Cŵn 1973;
  • Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999.  

gallai'r Llys ddiddymu unrhyw drwydded sydd gan yr unigolyn i gadw anifail gwyllt peryglus a'i anghymhwyso, p'un ai ef yw'r deiliad trwydded presennol ai peidio, rhag dal trwydded o'r fath am y cyfryw gyfnod ag y bo'n briodol ym marn y Llys. Gallai'r Llys wrthdroi'r penderfyniad diddymu neu anghymhwyso yn achos apêl.

Apeliadau a Chwynion

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. Mae mwy o wybodaeth am wneud cwyn i'w chael yn y fan hon.

 

Gall unrhyw ddeiliad trwydded sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod ei gais am drwydded neu yn erbyn amod sydd ynghlwm wrth ei drwydded apelio i'w Lys Ynadon lleol, a gallai'r Llys roi cyfarwyddyd ynghylch y drwydded a'i hamodau fel y bo'n briodol yn ei farn ef.

Cymdeithasau Masnach

Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)

Sylwch - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647263

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig