Trwydded Sŵ - Gwneud Cais am Drwydded

Trwydded Sŵ
Crynodeb o'r Drwydded

I redeg sŵ yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, mae angen trwydded arnoch gan yr awdurdod lleol.

 

Mae'n rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw delerau neu amodau sydd ynghlwm wrth dystysgrif.

Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch y gyfraith

Crynodeb o'r rheoliad sy'n ymwneud â'r drwydded hon

 

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf Trwyddedu Sŵau ac arweiniad diweddaraf DEFRA i'w cael ar wefan DEFRA.

  

Ar gyfer ymholiadau eraill, neu i gael copïau caled o'r dogfennau uchod, gallwch gysylltu â DEFRA yn: Wildlife Species Conservation Division, Department for Environment, Food and Rural Affairs, Zone 1/10, Temple Quay House, 2 The Square, Temple Quay, Bristol BS1 6EB. Ffôn: 0117 372 8209 neu e-bost: zoos.branch@defra.gsi.gov.uk.

Sut i ymgeisio

Os ydych am wneud cais i gofrestru am Drwydded Sw, lawrlwytho copi o'r hysbysiad o fwriad i wneud cais am ffurflen trwydded sw a'r cais i adnewyddu ffurflen trwydded sw yma.

 

Mae copi o'n hamodau trwydded safonol ar gael yn y fan hon. Fodd bynnag, mae'r rhain er arweiniad yn unig, oherwydd bydd yr union amodau a osodir ar safle sŵ yn berthnasol i amgylchiadau unigol.

Ffïoedd ymgeisio

Lawrlwythwch gopi o'r ffïoedd ymgeisio

Y broses ymgeisio

Mae gwneud cais am drwydded sŵ yn broses gymhleth a rhaid dilyn pob cam yn ofalus.

 

O leiaf ddau fis cyn gwneud cais am drwydded, rhaid i'r ymgeisydd roi hysbysiad ysgrifenedig (gan gynnwys ar ffurf electronig) i'r awdurdod lleol o'i fwriad i wneud cais. Rhaid i'r hysbysiad roi manylion:

 

  • lleoliad y sŵ
  • y mathau o anifeiliaid ac amcangyfrif o nifer yr anifeiliaid o bob grŵp a gedwir i'w harddangos ar y safle, a'r trefniadau ar gyfer lletya, cynhaliaeth a lles yr anifeiliaid
  • amcangyfrif o nifer a chategorïau'r staff y bwriedir eu cyflogi yn y sŵ
  • amcangyfrif o nifer yr ymwelwyr a'r cerbydau y bwriedir darparu lle ar eu cyfer
  • amcangyfrif o nifer y mynedfeydd y bwriedir eu darparu i'r safle, a'u safleoedd
  • sut y bydd mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu rhoi ar waith yn y sŵ

O leiaf ddau fis cyn cyflwyno'r cais, rhaid i'r ymgeisydd hefyd gyhoeddi hysbysiad o'r bwriad hwnnw mewn un papur newydd lleol ac un papur newydd cenedlaethol ac arddangos copi o'r hysbysiad hwnnw. Rhaid i'r hysbysiad nodi lleoliad y sŵ a datgan bod hysbysiad o'r cais i'r awdurdod lleol ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

 

Wrth ystyried cais, rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan neu ar ran:

 

  • yr ymgeisydd
  • prif swyddog yr heddlu yn yr ardal berthnasol
  • yr awdurdod priodol - sef naill ai'r awdurdod gorfodi neu'r awdurdod perthnasol y bydd y sŵ yn cael ei lleoli yn ei ardal
  • corff llywodraethu unrhyw fudiad cenedlaethol sy'n ymwneud â gweithrediad sŵau
  • yr awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y bydd y sŵ yn cael ei lleoli ynddi
  • unrhyw unigolyn sy'n honni y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw yn y gymdogaeth 
  • unrhyw un sy'n datgan y byddai'r sŵ yn effeithio ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy'n byw gerllaw
  • unrhyw unigolyn arall y gallai ei sylwadau awgrymu sail sy'n rhoi pŵer neu ddyletswydd i'r awdurdod wrthod rhoi trwydded

Cyn rhoi neu wrthod rhoi'r drwydded, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu bod archwiliad yn cael ei gynnal gan filfeddyg arbenigol ac arolygwyr awdurdodedig eraill ac ati. Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd o'r arolygiad. Yna, bydd yr awdurdod yn ystyried unrhyw adroddiadau gan yr arolygwyr ar sail eu harchwiliad o'r sŵ ac yn ymgynghori â'r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu hychwanegu at y drwydded.

 

Ni fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r drwydded os yw o'r farn y byddai'r sŵ yn cael effaith andwyol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy'n byw gerllaw, neu'n cael effaith ddifrifol ar gynnal cyfraith a threfn neu os nad yw'n fodlon y byddai mesurau cadwraeth priodol yn cael eu gweithredu'n foddhaol.

 

Hefyd, gallai cais gael ei wrthod:

 

  • os nad yw'r awdurdod lleol yn fodlon bod y llety, y trefniadau staffio neu'r safonau rheoli yn addas ar gyfer gofal a lles priodol yr anifeiliaid neu ar gyfer cynnal y sŵ yn briodol
  • os yw'r ymgeisydd neu'r cwmni, os yw'r ymgeisydd yn gwmni corfforedig, neu unrhyw rai o gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg eraill y cwmni, neu geidwad yn y sŵ, wedi'i gael yn euog o unrhyw drosedd yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid

Os oes unrhyw feysydd y mae angen eu gwella, byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar yr ymgeisydd i gydymffurfio â'r amodau trwyddedu. Hefyd, gallai'r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod lleol, gyfarwyddo'r awdurdod i ychwanegu un neu fwy o amodau at drwydded.

 

Gallai'r awdurdod lleol gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd nifer fach yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw yn y sŵ, neu gan mai nifer fach o fathau o anifeiliaid sy'n cael eu cadw yno, y dylid cyflwyno cyfarwyddyd nad oes angen trwydded.

 

Bydd ceisiadau i adnewyddu trwydded yn cael eu hystyried ddim hwyrach na chwe mis cyn bod y drwydded bresennol yn dod i ben, oni bai bod yr awdurdod lleol yn caniatáu cyfnod byrrach.

 

Pan fydd sŵ wedi'i thrwyddedu, byddwn yn cynnal archwiliadau fel y bo'n briodol ac ar adeg adnewyddu'r drwydded, a gallwn gynnal ymweliadau achlysurol hefyd. Fel rhan o'r broses drwyddedu, bydd angen i weithredwr y sŵ roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'r busnes a darparu rhestr stoc flynyddol o unrhyw anifeiliaid a gedwir yn y sŵ.

 

Sylwer, gallai manylion unrhyw sŵ drwyddedig gael eu cynnwys ar ein gwefan a gallem rannu'r manylion gyda chyrff statudol eraill hefyd fel y bo'n briodol.

A yw Cymeradwyaeth Ddealledig yn berthnasol?

Nid yw cymeradwyaeth ddealledig yn berthnasol i'r drwydded hon oherwydd, er budd y cyhoedd, rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir ei gymeradwyo. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn 28 diwrnod, cysylltwch â ni i gael diweddariad ynghylch eich cais.

 

Sylwer, bydd y broses gymeradwyo gyfan yn cymryd tipyn mwy na 28 diwrnod er mwyn caniatáu am y prosesau ymgynghori ac arolygu angenrheidiol.

Apeliadau a Chwynion

Caiff deiliad trwydded apelio i Lys Ynadon yn erbyn:

 

  • penderfyniad i wrthod rhoi trwydded
  • unrhyw amod sydd ynghlwm wrth drwydded neu unrhyw benderfyniad i amrywio neu ddileu amod
  • penderfyniad i wrthod cymeradwyo trosglwyddo trwydded
  • cyfarwyddyd i gau sŵ
  • camau gorfodi yn ymwneud ag unrhyw amod sydd heb ei fodloni

Rhaid cyflwyno'r apêl o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y mae deiliad y drwydded yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod ynghylch y mater perthnasol.

 

Os gwrthodir eich cais, neu os nad ydych yn derbyn unrhyw rai o'r amodau trwydded a gyflwynir fel rhan o'r gymeradwyaeth, dylech gysylltu â'r swyddog sy'n delio â'ch trwydded yn y lle cyntaf. Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am y gweithdrefnau apelio pan fyddwn yn gwrthod trwydded, neu ar gais. Hefyd, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein gweithdrefn gwyno os ydych o'r farn na chafodd eich cais ei brosesu'n briodol. Mae mwy o wybodaeth am wneud cwyn i'w chael yn y fan hon.

Sylwer - mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (y Cyngor) ddyletswydd i warchod yr arian cyhoeddus a weinyddir ganddo ac, i'r perwyl hwnnw, gall ddefnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen i atal a datgelu twyll. Hefyd, gall y Cyngor rannu'r wybodaeth hon â chyrff eraill sy'n gweinyddu neu'n derbyn arian cyhoeddus at y dibenion hyn yn unig. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalen y Fenter Twyll Genedlaethol ar y wefan hon.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Licensing

Tel: 01633 647286

Email: licensing@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig