Cymorth i Fusnesau Bach

Nid yw rheoli perygl yn y gweithle yn wahanol i unrhyw dasg arall - mae angen i chi gydnabod problemau, gwybod digon amdanynt, penderfynu beth i'w wneud a gweithredu ar yr atebion.

Dechrau Arni

Isod, ceir rhestr o gymorth a chyngor ar gamau gweithredu y mae angen i fusnesau bach eu cymryd er mwyn bodloni cyfraith iechyd a diogelwch.

Mae 10 peth allweddol y mae'n rhaid i chi eu gwneud:

  • Penderfynu beth allai achosi niwed i bobl a sut i gymryd rhagofalon. Dyma'ch asesiad risg. Gweler y llyfryn Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch am ffurflen hunanasesu barod.
  • Penderfynu sut rydych yn mynd i reoli iechyd a diogelwch yn eich busnes. Os oes gennych 5 neu fwy o weithwyr, mae angen i chi gofnodi hyn yn ysgrifenedig. Dyma'ch polisi iechyd a diogelwch. Gweler y llyfryn fel yr uchod ar gyfer y ffurflen hunanasesu.
  • Os ydych yn cyflogi unrhyw un, mae angen Yswiriant Gorfodol Atebolrwydd Cyflogwyr arnoch a rhaid i chi arddangos y dystysgrif yn eich gweithle.
  • Rhaid i chi ddarparu hyfforddiant iechyd a diogelwch rhad ac am ddim i'ch gweithwyr fel eu bod yn gwybod pa beryglon a risgiau y gallant eu hwynebu a sut i fynd i'r afael â nhw.
  • Rhaid i chi gael cyngor cymwys i'ch helpu i fodloni eich dyletswyddau iechyd a diogelwch. Gall hwn gael ei ddarparu gan weithwyr o'ch busnes, ymgynghorwyr allanol neu gyfuniad o'r rhain.
  • Mae angen i chi ddarparu toiledau, cyfleusterau ymolchi a dŵr yfed i'ch holl weithwyr, gan gynnwys rhai sydd ag anableddau. Mae'r rhain yn anghenion iechyd, diogelwch a lles sylfaenol.
  • Rhaid i chi ymgynghori â'ch gweithwyr ar faterion iechyd a diogelwch.
  • Os oes gennych weithwyr, rhaid i chi arddangos y poster cyfraith iechyd a diogelwch neu roi taflen i'ch gweithwyr sy'n cynnwys yr un wybodaeth.
  • Os ydych yn gyflogwr, yn hunangyflogedig neu'n rheoli safle gwaith, yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gofnodi rhai damweiniau, clefydau a digwyddiadau peryglus sy'n gysylltiedig â gwaith.

Nid oes angen i iechyd a diogelwch fod yn ddrud, yn llafurus nac yn gymhleth. Lawrlwythwch ein Pecyn Cyngor i Fusnesau Bach am ddim am ragor o wybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig