Gweithlu Diogelach, Gwell Busnes (SWBB)

Cafodd pecyn Gweithlu Diogelach, Gwell Busnes  ei lunio gan swyddogion Is-grŵp Iechyd a Diogelwch Dyfnaint, mewn partneriaeth â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ymgynghorwyd â busnesau trwy gydol pecyn Gweithlu Diogelach, Gwell Busnes sydd ar gael i'w lawr lwytho. Dyluniwyd y pecyn ar gyfer busnesau bach a maint canolig, fel bwytai, caffis, masnachwyr, gwestai bach, tafarndai, cartrefi gofal a swyddfeydd. Unwaith y caiff ei gwblhau, bydd yn caniatáu busnesau i ganfod y peryglon pennaf yn eu gweithleoedd, cyflwyno mesurau rheoli addas a chael system dogfenni yn ei lle i’w arolygu gan swyddogion gorfodi.

Rhennir y pecyn yn bum adran, fel a ganlyn, a dylai’r sawl sydd yn berchen ar fusnes a/neu reolwyr weithio trwyddynt a’u cwblhau:

  • Polisïau a gweithdrefnau 
  • Diogelu 
  • Arferion da 
  • Cofnodion 
  • Gofal ychwanegol

Unwaith y bydd pob adran wedi ei chwblhau, dylid dwyn sylw'r staff at y pecyn. Dylid adolygu’r gweithdrefnau iechyd a diogelwch/dulliau diogel yn rheolaidd a’u diweddaru pan fydd angen, er enghraifft, yn dilyn damwain, newidiadau i arferion gwaith neu pan gyflwynir offer newydd.

Diwygiwyd Diwethaf: 27/02/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig