Cyfleoedd i Hysbysebu yn Nhorfaen

Sponsored roundabout

Ar gyfartaledd mae tua 20,000 o geir yn gyrru heibio cylchfannau prysuraf gogledd a de Torfaen bob dydd.

Mae dros 93,000 o bobl yn byw yn Nhorfaen; mae'n lle bywiog, amrywiol gyda chysylltiadau ffordd a rheilffordd ragorol.

Pum milltir yn unig ydyw o'r M4 sy'n ei gwneud yn ardal boblogaidd iawn ymhlith ymwelwyr, p'un a ydyn nhw'n dewis cerdded yn ein cefn gwlad syfrdanol neu siopa yng Nghanolfan Siopa Cwmbrân, un o'r canolfannau siopa dan do mwyaf yng Nghymru, gyda mwy na 170 o siopau a mwy na 3,000 o leoedd parcio.

Mae hysbysebu ar un o gylchfannau Torfaen yn rhoi cyfle i bobl weld neges eich busnes 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae Cyngor yn chwilio am fusnesau a fyddai â diddordeb mewn hysbysebu eu gwasanaethau ledled y fwrdeistref, o gylchfannau'r A4043 ym Mhont-y-pŵl, y rhai ar hyd Cwmbran Drive, i'r rhai ger Canolfan Siopa Cwmbrân a llawer mwy. 

Mae rhestr o’r rheini sydd eisoes yn hysbysebu ar gylchfannau ar gael i’w lawr lwytho yma.

Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd

AdvertMae ein Cynllun Hysbysebu wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda llawer o noddwyr yn dewis parhau i gymryd rhan flwyddyn ar ôl blwyddyn, darllenwch rhai o'u sylwadau isod ar hyn sydd ar gael ar hyn o bryd

“Mae'r cynllun cylchfannau yn syniad rhagorol i helpu i hyrwyddo'ch busnes i gynulleidfa eang ac amrywiol, mae'n syml ac mae hefyd yn rhoi hunaniaeth i'ch lleoliad.” Ian Solkin - Gwesty a Sba Best Western Parkway

Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd
Lleoliadau Arwyddion Pris y Flwyddyn 

Junction of Maendy Way and Greenforge Way by Petersons Funeral Home

X 4

£2,250

Junction of Ty Gwyn Way and St Dials Road by Greenmeadow Farm

X 4

£1,750

Grass verge at Fairwater Way bus turning area

X 2

£1,200

Junction of Greenforge Way, Springvale & Woodland Street (Near Springvale Industrial Estate)

X 4

£2,250

Junction of Hollybush Way & Henllys Way

X 4

£2,000

Junction of Chapel Street and Maendy Way (By Pontnewydd Gentlemans Club)

X 4

£3,000

Large Splitter Island at Junction of Cwmbran Drive (A4051) Sainsburys, The Crow

X 2  £2,750 

Splitter islands of roundabout 2 (A4051) Parkway

X 3 £2,000

Junction of Cwmbran Drive (A4051) & Henllys Way by Cwmbran Stadium

X 3 £4000

Junction of Henllys Way & Ty Coch Way, Cwmbran

X 4 £2,500

Junction of Llanfrechfa Way and Llantarnam Road

X 4  £2000 

Splitter Islands at Roundabout by B&Q Cwmbran (smaller signs)

X 3  £1,800

A4043 Pontypool at junction with High Street (Tesco)

X 4 £3,500

Nid yw’r prisiau a rhestrwyd yn cynnwys TAW. 

* Cafwyd y ffigurau'n annibynnol o Adroddiad Blynyddol Teithio yng Ngwent Fwyaf 2009, Capita Symmonds fel y'i cyflwynwyd i Lywodraeth Cymru. 

Mae rhestr o’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys lluniau ar gael i’w lawr lwytho yma.  

Diwygiwyd Diwethaf: 16/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdogaethau

Ffôn: 01495 766810

E-bost: oliver.james@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig