Casgliadau gwastraff a deunydd ailgylchu masnachol

Mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar fusnesau i waredu gwastraff mewn ffordd gyfrifol – rhaid iddynt ddefnyddio cwmni cludo gwastraff cofrestredig i waredu eu gwastraff a rhaid bod ganddynt y dogfennau i ddangos beth yw’r trefniadau sydd ar waith ganddynt ar gyfer gwaredu gwastraff.

Mae Cyngor Torfaen yn darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff Masnach. Am wybodaeth, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen ar 01633 648735 neu anfonwch neges e-bost i businessdirect@torfaen.gov.uk

O 6 Ebrill 2024, fe fydd Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Fe fydd yn golygu bod gofyn i bob safle annomestig wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth wastraff arall.

Bwriad hyn yw gwella ansawdd gwastraff masnach sy’n gallu cael ei ailgylchu sy’n cael ei gasglu a’i ddidoli ledled Cymru, a faint ohono sy’n cael ei ailgylchu.

Gofynion gwahanu

Mae’r rheolau newydd hyn yn berthnasol i bob busnes ac i’r sectorau cyhoeddus ac elusennol. Rhaid i chi sicrhau bod pob un o’r canlynol yn cael eu gwahanu cyn iddynt gael eu gasglu:

  • gwastraff bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd bob wythnos
  • papur a cherdyn
  • gwydr
  • caniau metel
  • poteli plastig
  • cartonau a phecynnau tebyg eraill
  • cyfarpar trydanol ac electronig bach sydd heb eu gwerthu
  • tecstilau sydd heb eu gwerthu

Meddianwyr eiddo fydd yn gyfrifol am gydymffurfio â’r rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru fydd yn gorfodi’r rheoliadau a gallai meddianwyr wynebu dirwyon o hyd at £300 am bob trosedd.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall cwsmeriaid gwastraff masnach Cyngor Torfaen gael cyngor gan y tîm trwy gysylltu â BusinessRecycling@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen

Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig