Beth os na fyddaf yn talu ar amser?

Os nad ydych yn talu un o'ch rhandaliadau Trethi Busnes mewn pryd, bydd llythyr atgoffa yn cael ei anfon atoch yn datgan faint y mae angen i chi ei dalu.

Os nad ydych yn talu ar ôl i ni anfon llythyr atgoffa atoch ac yna'n peidio â gwneud yr holl daliadau eraill mewn pryd, byddwch yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau.

Bydd y Cyngor yn mynnu eich bod yn talu'r swm llawn ar unwaith a gallech gael Gwŷs i ymddangos yn y Llys Ynadon. Bydd unrhyw wŷs a gyhoeddir yn arwain at gostau o £70. Oni bai y derbynnir y taliad, bydd y Cyngor yn gwneud cais i'r Llys am orchymyn atebolrwydd. 

Os ydych yn cael trafferth talu eich Trethi Busnes, cysylltwch â ni ar unwaith ar 01495 766125/766126. Peidiwch ag aros i ni anfon llythyr atgoffa atoch.

Diwygiwyd Diwethaf: 26/09/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Ardrethi Busnes

Ffôn: 01495 766125

Ebost: revenues@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig