Dechrau busnes o'r cartref

I redeg busnes o'ch cartref, efallai bydd angen caniatâd arnoch gan eich:

  • darparwr morgais neu landlord
  • swyddfa gynllunio leol - e.e. os ydych yn bwriadu gwneud newidiadau mawr i'ch cartref
  • cyngor lleol - e.e. os ydych yn mynd i gael llawer o gwsmeriaid neu ddanfoniadau, rydych eisiau hysbysebu y tu allan i'ch cartref neu os oes angen trwydded i redeg eich busnes

Gwybodaeth Gyffredinol

Y prif gorff sy’n gallu rhoi cyngor busnes yw Busnes Cymru, sef rhaglen gymorth busnes Llywodraeth Cymru sydd wedi ei gynllunio i helpu busnesau yng Nghymru i dyfu a helpu unigolion i ddechrau busnes. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru. Os ydych o dan 30 mae Ymddiriedolaeth y Tywysog hefyd yn ddefnyddiol.

Os ydych yn ystyried dechrau busnes yn Nhorfaen, cysylltwch â Chyswllt Busnes Torfaen a all rhoi cefnogaeth a chyngor i chi. Ffôn: 01633 648735, e-bostiwch: businessdirect@torfaen.gov.uk neu llenwch y Ffurflen Ymholiad Busnes.

Mae Technium Springboard ym Mharc Llantarnam, Cwmbrân yn darparu gwasanaeth cefnogi busnes sy'n cyflymu datblygiad llwyddiannus busnesau newydd. Rhaid i'r busnes posibl cadw at ofynion penodol a mynd drwy broses ddethol. Mae'n darparu’r gwasanaeth busnes, cyfarpar, cymorth technoleg a chymorth ariannol perffaith, sy'n creu amgylchedd cefnogol. Gall pob busnes ddefnyddio'r ganolfan am hyd at dair blynedd, ac maent yn derbyn rhaglen drefnus, bwrpasol ar gyfer twf. Cysylltwch â'r Ganolfan ar 01633 647800 i gael gwybod am y pecynnau e -pods, sy'n ddewis arall i ddechrau busnes yn y cartref.

Treth ac Yswiriant Gwladol

Am wybodaeth am dreth ac yswiriant gwladol, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM. Argymhellir hefyd y ceisir cyngor cynnar gan gynghorydd proffesiynol fel cyfrifydd neu fanc.

TAW

Ar gyfer ymholiadau TAW ffoniwch 0845 0109000 neu ewch i wefan Cyllid a Thollau EM.

A fydd rhaid i mi dalu trethi busnes?

Mae rheoliadau yn datgan bod pob defnydd annomestig yn ardrethol. Fodd bynnag, os yw eich busnes yn rhannu defnydd ystafell deulu yn eich cartref, bydd y prif ddefnydd fel arfer yn cael ei ystyried fel un domestig ac ni fydd yr ystafell yn ardrethol. Un enghraifft o hyn yw ystafell westeion yn cynnwys desg a chyfrifiadur ynghyd â gwely, cwpwrdd dillad ac yn y blaen

Os yw ystafell yn eich cartref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes yn unig, bydd defnydd eich busnes yn cael ei ystyried yn annomestig a bydd yr ystafell yn ardrethol.

Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol a dylech gysylltu â Threthi Busnes ar 01495 762200 i drafod eich cynnig yn fanylach.

Fel arall, am wybodaeth bellach ewch at yr adran Trethi Busnes ar y wefan.

A fydd angen i mi wneud cais am ganiatâd cynllunio i redeg fy musnes o gartref?

Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio os yw eich busnes yn 'cymryd drosodd' ac yn newid cymeriad eich cartref a'r amgylchedd preswyl cyfagos.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen caniatâd cynllunio os yw un neu fwy o'r canlynol yn berthnasol:

  • Nid yw eich cartref yn cael ei ddefnyddio yn sylweddol fel preswylfa breifat bellach
  • Mae cynnydd nodedig mewn cerbydau neu bobl yn galw o ganlyniad i’ch busnes
  • Mae eich busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau anarferol mewn ardal breswyl
  • Mae eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion yn ystod oriau afresymol neu’n arbennig o swnllyd neu ddrewllyd
  • Rydych yn cyflogi gweithwyr yn y cartref nad ydynt yn byw yno fel arfer.

Os ydy unrhyw un o'r uchod yn wir, neu os hoffech drafod eich cynnig gyda Swyddog Cynllunio, ffoniwch: 01633 648009.

A fydd angen i mi gydymffurfio â rheoliadau adeiladu i redeg fy musnes o gartref?

Bydd ond angen i chi gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu ychwanegol i ddarparu ar gyfer eich busnes.

Mae'r gwaith adeiladu canlynol wedi'u heithrio rhag Rheoli Rheoliadau Adeiladu:

Adeilad un llawr ar ei ben ei hun gyda:

  • Arwynebedd llawr o ddim mwy na 30 metr sgwâr
  • Dim llety cysgu
  • Wedi'i leoli o leiaf un metr o ffin yr eiddo

Adeilad ar ei ben ei hun gyda:

  • Arwynebedd llawr o ddim mwy na 15 metr sgwâr
  • Yn cynnwys unrhyw lety cysgu

Bydd angen i unrhyw estyniadau i adeiladau presennol i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu. Ffoniwch 01495 766922 os hoffech drafod eich cynnig gyda Swyddog Rheoli Adeiladu.

A fydd rheoliadau iechyd yr amgylchedd yn berthnasol i fy musnes?

Mae rheoliadau Iechyd yr Amgylchedd yn berthnasol i ystod o fusnesau sy’n cael eu rhedeg o gartref. Mae'r rhestr ganlynol yn cynnwys enghreifftiau o fusnesau yn gweithredu o gartref lle mae rheoliadau yn berthnasol yn gyffredinol.

Arlwyo Cartref

  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990
  • Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Cyffredinol) 1995
  • Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Cofrestru fel busnes bwyd

Gwarchod Plant

  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990
  • Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Cyffredinol) 1995
  • Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
  • Cofrestru fel busnes bwyd
  • Cofrestru gydag uned cofrestru Cyngor Sir Torfaen fel gwarchodwr plant

Gweithgareddau swyddfa

  • Deddf Iechyd a Diogelwch 1974
  • Os oes gennych gyflogeion bydd angen i chi gofrestru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Lletya anifeiliaid, bridio cŵn, gwerthu anifeiliaid anwes neu redeg sefydliad marchogaeth

  • Angen eu trwyddedu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974

Triniaethau harddwch, tyllu clustiau neu gael tatŵ

  • Cofrestru adeiladau a phersonél
  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
Diwygiwyd Diwethaf: 24/04/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen
Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig