Clwb Busnes

Gwnewch 2024 y flwyddyn y byddwch chi’n dod yn rhan o’ch rhwydwaith busnes lleol ac yn cwrdd â busnesau tebyg yn ardal Torfaen.

Llais Busnes Torfaen yw clwb busnes ffyniannus Torfaen sy’n bod ers dros 22 mlynedd. Gyda thua deg a thrigain o aelodau o sectorau a meintiau amrywiol, o fusnesau cychwynnol newydd sbon i fusnesau bach a chanolig sydd wedi eu hen sefydlu, gyda phrofiad helaeth sy’n cael ei rannu yn y digwyddiadau rhwydweithio poblogaidd.

Mae’r clwb yn cael ei redeg gan bwyllgor o fusnesau, sy’n rhan annatod o’i lwyddiant. Mae’r aelodau yma o’r pwyllgor yn awyddus i wneud gwahaniaeth a llywio’r clwb i’r cyfeiriad y mae’r aelodau’n penderfynu. 

Tâl aelodaeth ar gyfer 2024

  • Aelodaeth Flynyddol - £50 + TAW
  • Talu Wrth Ddefnyddio - £20 + TAW

Mae aelodaeth flynyddol o 12 mis yn dechrau o’r dyddiad ymuno.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Iau 21 Mawrth 2024 yng Nghlwb Golff Greenmeadow, Cwmbrân.

Archebwch eich lle nawr

Buddion Aelodaeth

Mae Llais Busnes Torfaen yn cynnig gwerth ardderchog am arian nifer o fanteision i chi a’ch busnes gan gynnwys:

  • Lle yn ein cyfarfodydd, sy’n digwydd bob chwarter.  Mae’r cyfarfodydd yn cynnwys sesiynau rhwydweithio, cyngor cymorth busnes a siaradwyr gwadd ysbrydoledig
  • Cyfleoedd amrywiol i rwydweithio gyda digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn
  • Bwletinau trwy e-bost gyda gwybodaeth am ariannu sydd ar gael, rhaglenni hyfforddiant, digwyddiadau rhwydweithio yn ogystal â chyfleoedd eraill a allai fod o fudd i fusnesau yn Nhorfaen
  • Gwybodaeth am ddigwyddiadau busnes, gan gynnwys brecwastau busnes, gweithdai a seminarau a gynhelir gan sefydliadau partner
  • Rhestru manylion eich cwmni yn adran aelodaeth llais busnes (proffiliau aelodau) i’w rhannu ag aelodau eraill

Ymunwch nawr trwy gwblhau Ffurflen gais Llais Busnes Torfaen.  Gellir talu trwy’r ddolen ac www.civicaepay.co.uk.  Byddwn yn cadarnhau eich aelodaeth unwaith y bydd y ffurflen wedi ei chwblhau’n gyflawn a’r taliad ill dau wedi eu derbyn.

Edrychwn ymlaen ar eich croesawu i Lais Busnes Torfaen.  Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau cyn ymaelodi, cysylltwch â ni trwy businessdirect@torfaen.gov.uk, neu ffoniwch  01633 648735 

Diwygiwyd Diwethaf: 01/02/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyswllt Busnes Torfaen
Ffôn: 01633 648735

Ebost: businessdirect@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig