Cael Tystysgrifau

Sut ydw i’n cael copi o dystysgrif?

Mae Gwasanaeth Cofrestru Torfaen yn cadw cofnodion o'r holl enedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a gofrestrwyd yn yr ardal rhwng Gorffennaf 1837 hyd heddiw.

O ran digwyddiadau nad ydynt wedi'u cofrestru yn ardal Torfaen bydd angen i chi wneud cais am gopi o dystysgrif gan y Swyddfa Gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad.

I gael gwybodaeth am Swyddfeydd Cofrestru eraill ledled Cymru a Lloegr, ewch i www.gov.uk.

Pwy all wneud cais am gopi o dystysgrif?

Mae gan unrhyw un a all adnabod y cofnod yn y gofrestr hawl i wneud cais am gopi o dystysgrif.

Mae adnabod cofnod yn golygu gwybod y manylion perthnasol a fydd yn ymddangos ar y dystysgrif.

O ran cofnodion geni, gofynnwn i'r sawl sy’n gwneud cais ddarparu'r:

  • enw llawn ar y dystysgrif
  • dyddiad a man geni
  • enw llawn y fam ac enw’r fam cyn iddi briodi (os yw hyn yn berthnasol)
  • enw llawn y tad/rhieni

O ran cofnodion marwolaeth, gofynnwn i’r sawl sy’n gwneud cais ddarparu:

  • enw llawn yr ymadawedig
  • dyddiad a man lle y buodd farw
  • enw llawn y priod/cymar (os yw hynny’n berthnasol)

O ran tystysgrifau priodas/partneriaethau sifil, gofynnwn i’r sawl sy’n gwneud cais ddarparu:

  • enwau llawn y ddau barti
  • unrhyw gyfenwau eraill a ddefnyddiwyd
  • dyddiad a lleoliad y briodas/seremoni (hy enw’r lleoliad, eglwys ac ati)

Faint mae tystysgrif yn ei gostio?

Cost tystysgrif geni, priodas, marwolaeth ar lein yw £11.

Gall tystysgrifau gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith a byddant yn cael eu dosbarthu yn y post 2ail ddosbarth. Bydd ceisiadau brys yn cael eu prosesu cyn pen 24 awr ar ôl eu derbyn ar gost o £35 y dystysgrif a chânt eu dosbarthu yn y post dosbarth 1af.

Sut ydw i’n gwneud cais am dystysgrif?

Gwneud cais ar lein

Gallwch wneud cais ar lein am gopi o dystysgrif geni, priodas neu farwolaeth: 

Gwneud cais dros y ffôn

Gallwch wneud cais dros y ffôn gyda cherdyn credyd neu ddebyd. Cysylltwch ar 01495 742132.

Byddwn yn cymryd y wybodaeth berthnasol a manylion y cyfeiriad post.

Mwy o Wefannau Defnyddiol

Y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol - I archebu Tystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth ac i lawr lwytho ffurflenni cais.

www.findmypast.co.uk - Ar y wefan hon fe welwch gopi cyfan o fynegeion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cymru a Lloegr rhwng 1837 a 2001. Mae'r delweddau hyn ar gael i'w chwilio am dâl. Bydd y wefan hon yn ddefnyddiol iawn i gwsmeriaid sydd eisoes yn gyfarwydd â'r mynegeion hyn ac sy'n dymuno cael cyfle i'w chwilio yn eu hamser eu hunain, heb orfod ymweld â Llyfrgell na Swyddfa Gofrestru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Family Research Link sydd wedi'i leoli yn Llundain.

Rootsweb - Mae 'FreeBMD' yn brosiect parhaus a'i nod yw trawsgrifio'r mynegai Cofrestru Sifil o Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau ar gyfer Cymru a Lloegr.

Family Search - Dyma wefan Eglwys y Mormoniaid, sydd â dolenni i'w holl gronfeydd data, gan gynnwys Cyfrifiad Prydain 1881 a'r Mynegai Achyddol Rhyngwladol o Fedyddiadau a Phriodasau.

Yr Archifau Gwladol - Dyma wefan yr Archifau Gwladol (y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus gynt) ac mae ganddi ddolenni i'w casgliadau yn y Ganolfan Cofnodion Teuluol a Kew (gan gynnwys catalog ar-lein manwl iawn).

Cyfrifiad 1901 - Dyma safle Cyfrifiad 1901 ar-lein.

Diwygiwyd Diwethaf: 07/04/2020
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig