Gofal Cymdeithasol - Beth i'w wneud pan fydd rhywun yn marw

Mae'r adran hon yn cynnig cyngor ymarferol ynghylch beth i'w wneud pan fydd rhywun sy'n adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol neu ei (g)ofalwr yn marw. Mae'n esbonio sut i stopio darpariaeth y gwasanaethau cymdeithasol neu sut i ddarganfod a yw'r unigolyn mewn profedigaeth yn gymwys i gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Am unrhyw help neu gymorth ychwanegol yn ystod yr adeg anodd hon, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200 neu e-bostiwch y gwasanaethau cymdeithasol.

Beth i'w wneud pan fydd gofalwr yn marw

Mae gofalwr yn rhywun sy'n darparu gofal di-dâl i ffrind, perthynas neu rywun agos oherwydd ei fod yn sâl, mewn oed neu'n anabl.

Pan fydd gofalwr yn marw, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol gan y gwasanaethau cymdeithasol ar yr unigolyn dan ofal. Ambell waith, efallai na fydd yr unigolyn yn adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol o gwbl, felly bydd angen gwneud atgyfeiriad yn gyntaf.

Os yw'r unigolyn dan ofal yn adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol, cysylltwch â Gofal Cwsmeriaid Torfaen a rhowch wybod i rywun y bu farw'r gofalwr.

Bydd cynghorydd yn rhoi'r wybodaeth hon i weithiwr cymdeithasol neu dîm gwaith cymdeithasol yr unigolyn. Fel arall, os ydych yn gwybod enw a rhif ffôn y gweithiwr cymdeithasol, gallwch ei ffonio eich hunan.

Yna, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trefnu adolygiad o'r pecyn gofal y mae'r unigolyn yn ei dderbyn.

Os nad yw'r unigolyn dan ofal yn adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol, bydd angen i chi wneud atgyfeiriad, eto trwy gysylltu â Gofal Cwsmeriaid.

Atgyfeiriad yw'r gair rydym yn ei ddefnyddio i ddisgrifio'r cyswllt cyntaf â rhywun nad yw'n adnabyddus i'r gwasanaethau cymdeithasol, ond a all fod angen ein help a chymorth.

Pan wneir atgyfeiriad, byddwn yn trefnu i asesu anghenion yr unigolyn i weld a yw'n gymwys i gael gwasanaethau penodol ai peidio.

Gallai gwasanaethau gynnwys gofal personol, gweithgareddau dydd, pryd ar glud, gofal seibiant ac offer therapi galwedigaethol, er bod hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Thai Torfaen yn codi tâl am wasanaethau gofal personol a gofal dydd; mae'r costau hyn wedi'u seilio ar allu defnyddiwr gwasanaeth i dalu (am ragor o wybodaeth am gostau, darllenwch ein taflen Talu am Wasanaethau Gofal Cartref a Gofal Dydd).

Beth i'w wneud pan fydd defnyddiwr gwasanaeth yn marw

Cysylltwch â'n tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200 pan fyddwch yn teimlo'n barod i wneud hynny. Bydd cynghorydd yn cymryd rhai manylion gennych ac yn rhoi gwybod i'r adrannau priodol ar eich rhan. Os oedd yr unigolyn ymadawedig yn defnyddio'r gwasanaethau cymdeithasol, bydd y cynghorydd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych:

  • Enw'r gweithiwr cymdeithasol neu'r tîm gwaith cymdeithasol, os yw'n hysbys e.e. tîm gofal personol, tîm rheoli gofal
  • Manylion am unrhyw becynnau gofal a oedd yn cael eu derbyn, fel pryd ar glud, gweithgareddau dydd, gofal personol
  • P'un a oes angen dychwelyd unrhyw offer arbenigol e.e. cadair olwyn neu declyn codi (fel arall, gallwch drefnu hyn eich hun trwy ffonio 01633 648741 neu 01633 648484)

Mae cyrsiau byr ar gael i ofalwyr pan fydd yr unigolyn y maent yn gofalu amdano/amdani yn marw. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Gofalwyr Torfaen ar 01495 753838.

Diwygiwyd Diwethaf: 25/06/2019
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: social.services@torfaen.gov.uk

 

Nôl i’r Brig