Cofrestru Marwolaeth

Sut ydw i'n cofrestru marwolaeth?

Gallwch gofrestru'r farwolaeth gyda'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, neu gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr a gwneud datganiad o'r wybodaeth sy'n ofynnol. Sylwch y bydd cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad yn golygu oedi cyn derbyn y gwaith papur sy'n angenrheidiol i ganiatáu i'r angladd fynd yn ei blaen.

Rhowch alwad i ni ar 01495 742132 i drefnu apwyntiad i gofrestru marwolaeth yn Nhorfaen a’r Cylch.

Nid oes gofyniad i berthynas / hysbysydd gasglu Tystysgrif Feddygol yn nodi Achos y Farwolaeth (MCCD) o'r ysbyty, cartref gofal neu feddygfa. Bydd copi wedi'i sganio o'r dystysgrif wedi'i llofnodi yn cael ei anfon atom yn uniongyrchol ar registrars@torfaen.gov.uk.

Bydd y Swyddfa Gofrestru yn cysylltu â chi unwaith y byddant wedi derbyn ac adolygu’r Dystysgrif Feddygol yn nodi Achos y Farwolaeth. Yna byddwn yn trefnu dyddiad ac amser i chi ddod i’r swyddfa gofrestru i gofrestru’r farwolaeth.

Sylwer: Os cafodd y farwolaeth ei hadrodd i’r crwner, nid fyddem yn medru cofrestru’r farwolaeth tan i’r crwner gwblhau ymchwiliad a chyhoeddi’r gwaith papur angenrheidiol.

Pryd ddylwn i gofrestru marwolaeth?

Mae'r gyfraith yn mynnu bod marwolaeth yn cael ei chofrestru o fewn 5 diwrnod. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc ac mae'n berthnasol i bob marwolaeth sydd heb unrhyw gyswllt â'r crwner.

Pwy gaiff gofrestru marwolaeth?

  • perthynas a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth
  • perthynas oedd yn bresennol yn ystod salwch diwethaf y person
  • perthynas sy'n byw yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth
  • unrhyw un arall oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth
  • perchennog neu feddiannydd yr adeilad lle digwyddodd y farwolaeth a phwy oedd yn ymwybodol o'r farwolaeth
  • y person sy'n trefnu'r angladd (ond nid y trefnwr angladdau).

Sylwch: Ni allwch ddirprwyo cyfrifoldeb am gofrestru'r farwolaeth i unrhyw un arall.

Faint yw cost cofrestru marwolaeth?

Ni chodir tâl am gofrestru marwolaeth.

Faint yw cost copi o'r dystysgrif marwolaeth?

Mae tystysgrifau marwolaeth yn £11 pan fyddwch yn mynd ati i gofrestru.

Pa wybodaeth y bydd angen i'r Cofrestrydd ei chael am yr ymadawedig?

Bydd y Cofrestrydd yn siarad â chi'n breifat yn y swyddfa gofrestru ac yn gofyn i chi am y wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Enw a chyfenw llawn y person ymadawedig (a'r cyfenw cyn priodi os oedd yr ymadawedig yn fenyw briod / partner sifil)
  • Ei dd/dyddiad a'r man geni
  • Galwedigaeth yr ymadawedig ac, os oedd yr unigolyn ymadawedig yn briod neu mewn partneriaeth sifil, enw a galwedigaeth lawn eu priod neu bartner sifil
  • Dyddiad geni priod neu bartner sifil sy'n goroesi
  • Rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yr ymadawedig. Gellir cael hwn o Gerdyn Meddygol
  • Manylion unrhyw bensiwn sector cyhoeddus e.e. gwasanaeth sifil, athro neu luoedd arfog

Os byddaf yn cofrestru'r farwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth, pa ddogfennaeth byddaf yn ei derbyn ar y diwrnod cofrestru?

  • Ffurflen ar gyfer Nawdd Cymdeithasol (a elwir yn BD8);
  • Unrhyw dystysgrif/au marwolaeth y gofynnwyd amdanynt - £11 yr un
  • The green certificate for burial or cremation will be transmitted electronically to the Funeral Director, crematorium or cemetery office immediately following the registration

Beth fydd yn digwydd os na allaf gofrestru'r farwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth?

Os na allwch ddod i swyddfa'r cofrestrydd yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad, gellir rhoi'r wybodaeth ar gyfer y cofrestriad i unrhyw gofrestrydd yng Nghymru neu Loegr. Bydd angen i chi fynd i'r swyddfa gofrestrydd o'ch dewis i wneud datganiad o'r manylion ar gyfer y cofrestriad. Yna bydd y datganiad hwn yn cael ei anfon ymlaen at y cofrestrydd yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth.

Os byddaf yn cofrestru marwolaeth trwy ddatganiad, pa ddogfennau byddaf yn eu derbyn a phryd y byddaf yn derbyn y dogfennau trwy'r post?

Bydd y dogfennau canlynol yn cael eu hanfon atoch ar ôl i'r farwolaeth gael ei chofrestru'n swyddogol yn yr ardal lle digwyddodd y digwyddiad.

  • Ffurflen ar gyfer yr Ymgymerwr (y ffurflen werdd 9W) sy'n rhoi awdurdod iddo / iddi wneud trefniadau'r angladd;
  • Ffurflen ar gyfer Nawdd Cymdeithasol (a elwir yn BD8);
  • Unrhyw dystysgrif/fau marwolaeth y gofynnwyd amdanynt - £11 yr un

Sylwer: Bydd oedi o hyd at 7 diwrnod o ddyddiad y datganiad cyn i chi dderbyn y dogfennau uchod trwy'r post

Os oes angen cymorth pellach arnoch ynghylch y broses ddatgan, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru ar 01495 742132.

Beth os byddaf yn gwneud camgymeriad wrth gofrestru?

Wrth gwblhau cofrestriad rhaid i chi edrych ar dudalen y gofrestr yn ofalus. Pan fyddwch chi'n llofnodi'r cofnod rydych chi'n nodi bod popeth yn gywir a'i fod yn ddatganiad cywir.

Os na fyddwch yn sylwi ar gamgymeriad wrth wirio a llofnodi'r cofrestriad (marwolaeth geni, priodas, partneriaeth sifil) codir ffi o £75 neu £90 i wneud cais i'w gywiro, yn ôl y math o gywiriad sydd ei angen. Codir tâl am dystysgrifau newydd.

Noder os gwelwch yn dda: Nid yw’r ffi hwn yn sicrhau y bydd modd cywiro’r camgymeriad.

Claddedigaeth ffydd o fewn 24 awr i’r farwolaeth

Mae'n arferol, mewn rhai credoau crefyddol a diwylliannol i gynnal claddedigaeth ar yr un diwrnod neu o fewn 24 awr i'r Farwolaeth. Os oes angen y gwasanaeth hwn arnoch, bydd angen apwyntiad brys arnoch i gofrestru’r farwolaeth ar gyfer claddedigaeth ffydd, cysylltwch â ni ar 01495 742132. Os oes angen i chi siarad â ni y tu allan i oriau swyddfa arferol, cysylltwch â'r Ganolfan alwadau y tu allan i oriau ar 01495 762200 i gael cymorth.

Sylwer: Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd angen rhoi gwybod i'r crwner am y farwolaeth. Gall hyn olygu na allwn gyhoeddi'r gwaith papur angenrheidiol sy'n ofynnol i ganiatáu i'r gladdedigaeth fynd yn ei blaen o fewn y cyfnod gofynnol.

Diwygiwyd Diwethaf: 29/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig