Genedigaeth - Cofrestru

Pryd mae'n rhaid cofrestru genedigaeth?

O fewn chwe wythnos o ddyddiad geni'r babi (42 diwrnod). Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hysbysu cofrestryddion am enedigaethau sydd wedi digwydd yn eu hardal.

Ble gellir cofrestru genedigaeth?

Gallwch gofrestru genedigaeth eich babi gyda'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle cafodd eich babi ei eni, neu gallwch fynd i unrhyw swyddfa gofrestru yng Nghymru a Lloegr a datgan y wybodaeth sy'n ofynnol.

Trefniant gweithio partneriaeth Gwent

Gwnaed trefniadau newydd ar gyfer pob genedigaeth yng Ngwent neu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Os cafodd eich babi ei eni yn ardaloedd cyngor Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd neu Dorfaen, gallwch gofrestru'r enedigaeth yn unrhyw rhai o'r swyddfeydd cofrestru yn yr ardaloedd hynny.

Cysylltwch â'ch swyddfa leol i wneud trefniadau:

Os na allwch fynd i un o'r swyddfeydd hyn, gallwch ymweld ag unrhyw swyddfa gofrestru arall yng Nghymru neu Loegr, a byddant yn anfon y manylion atom.

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i un o ardaloedd y cynghorau hyn, gallwch fynd i unrhyw un o'r swyddfeydd hyn a bydd y cofrestrydd yn anfon y manylion i'r ardal lle cafodd y babi ei eni.

Faint o amser y mae cofrestru genedigaeth yn ei gymryd?

  • Tua 30 munud.

Faint yw cost cofrestru genedigaeth?

  • Ni chodir tâl am gofrestru genedigaeth baban.
  • Mae Tystysgrifau Geni yn £11 yr un ar yr adeg cofrestru.

Pwy all gofrestru genedigaeth?

  • Gall naill ai'r fam neu'r tad gofrestru'r enedigaeth os oeddent yn briod pan gafodd y babi ei eni neu'r fam ei beichiogi.
  • Os nad yw'r rhieni'n briod a'u bod am i fanylion y ddau ohonynt gael eu cynnwys ar y dystysgrif geni, mae angen iddynt lofnodi'r gofrestr geni gyda'i gilydd. Os nad yw hyn yn bosibl yna: Fel rheol gellir cynnwys manylion y tad yn ddiweddarach os ydych chi'n priodi neu'n dewis eu hychwanegu (gweler yr adran ailgofrestru isod)
    • rhaid i un rhiant lenwi ffurflen datganiad rhiant statudol (ar gael o unrhyw Swyddfa Gofrestru y bydd angen i'r llall ei chyflwyno wrth gofrestru'r enedigaeth
    • rhaid i un rhiant gymryd tystiolaeth bod cytundeb cyfrifoldeb rhiant wedi'i wneud neu fod yn rhaid iddo allu cyflwyno gorchymyn llys i'w roi i'r cofrestrydd.
  • Mewn amgylchiadau eithriadol lle na all y rhieni gofrestru'r enedigaeth, bydd y cofrestriad yn cael ei gwblhau gan ba un bynnag o'r bobl ganlynol sy'n gallu gwneud hynny orau:
    • deiliad y tŷ neu'r ysbyty lle cafodd y plentyn ei eni
    • person a oedd yn bresennol adeg yr enedigaeth
    • rhywun sy'n gyfrifol am y plentyn

Rhieni o’r un rhyw

  • Rhaid i gyplau sy'n ddynion gael gorchymyn rhiant gan y llys cyn y gellir eu cofrestru'n rhieni
  • Gall cyplau sy'n fenywod gynnwys eu henwau ar dystysgrif geni eu plentyn wrth gofrestru'r enedigaeth - mae'r rheolau yn wahanol os ydynt mewn partneriaeth sifil ai peidio

Partneriaid sifil sy’n fenywod

  • Gall y naill fenyw neu'r llall gofrestru'r enedigaeth ar ei phen ei hun os yw pob un o'r canlynol yn wir:
    • mae gan y fam blentyn yn sgil cyfebriad drwy rhoddwr neu driniaeth ffrwythlondeb
    • roedd hi mewn partneriaeth sifil ar adeg y driniaeth
    • ei phartner sifil yw rhiant cyfreithiol y plentyn

Benywod nad ydynt yn bartneriaid sifil

  • Pan nad yw mam mewn partneriaeth sifil, gellir ystyried ei phartner fel ail riant y plentyn os yw'r ddwy fenyw:
    • yn cael eu trin gyda’i gilydd yn y DU gan glinig trwyddedig
    • yn meddu ar ‘gytundeb magu plant’
  • Fodd bynnag, er mwyn i fanylion y ddau riant gael eu cofnodi ar y dystysgrif geni, rhaid iddynt wneud un o'r canlynol:
    • Cofrestru’r enedigaeth ar y cyd
    • llenwi ffurflen ‘Datganiad statudol i gydnabod rhiant’ ac mae un rhiant yn mynd â'r ffurflen wedi’i llofnodi pan fydd hi'n cofrestru’r enedigaeth
    • cael dogfen gan y llys (er enghraifft, gorchymyn llys) sy'n rhoi cyfrifoldeb rhiant i'r ail riant sy'n fenyw, mae un rhiant yn dangos y ddogfen pan fydd hi'n cofrestru'r enedigaeth.

Pa ddogfennau fydd angen i mi ddod â nhw pan fyddaf yn cofrestru babi?

Er mwyn ein helpu i sicrhau ein bod yn cofnodi manylion yn gywir ar gofnod Genedigaeth, dylech ddod â rhai o'r dogfennau a ganlyn gyda chi i'r apwyntiad i gadarnhau manylion y rhieni:

  • Pasbort
  • Tystysgrif geni
  • Trwydded yrru
  • Tystiolaeth o gyfeiriad (fel bil treth y cyngor)
  • Os ydych chi’n briod neu wedi uno trwy bartneriaeth sifil, yn gwpwl, copi o’ch tystysgrif briodas/Partneriaeth Sifil

A allaf ailgofrestru genedigaeth plentyn nes ymlaen?

Mae yna amrywiol amgylchiadau lle mae'n bosibl y bydd angen ail-gofrestru genedigaeth. Er enghraifft:

  • Yn dilyn priodas y rhieni biolegol i ddangos y plentyn yn blentyn trwy briodas. Mae'r math hwn o ailgofrestru yn ofyniad cyfreithiol.
  • Ychwanegu manylion y tad naturiol lle nad yw'r cofnod presennol yn dangos unrhyw dad ac nad yw rhieni naturiol y plentyn wedi priodi ei gilydd ers dyddiad geni'r plentyn.
  • Yn dilyn priodas neu bartneriaeth sifil dau riant sy'n fenyw, i ddangos y plentyn fel plentyn trwy briodas neu bartneriaeth sifil.

Os ydych chi am newid cyfenw'r plentyn, gellir ei newid i'r un peth â'r fam, y tad naturiol neu unrhyw gyfuniad o'r ddau cyn belled â bod y ddau riant yn cytuno i'r newid. Os yw'r plentyn yn 16 oed neu'n hŷn, bydd angen ei ganiatâd ysgrifenedig. Ni allwch newid enwau cyntaf plentyn wrth ailgofrestru.

Nid oes unrhyw dâl am ailgofrestru genedigaeth. Fodd bynnag, gellir prynu tystysgrifau geni newydd ar ddiwrnod yr ail gofrestriad am gost o £11 yr un am bob tystysgrif.

Cywiriadau i gofnod Geni wedi'i gwblhau

Wrth gwblhau cofrestriad rhaid i chi edrych ar ddalen y gofrestr yn ofalus. Wrth lofnodi'r cofnod wedi'i gwblhau rydych chi'n nodi bod popeth yn gywir a bod y datganiad yn gywir.

Os na fyddwch yn sylwi ar wall wrth wirio a llofnodi'r cofrestriad (genedigaeth, marwolaeth, priodas, partneriaeth sifil) y ffi i wneud cais i'w chywiro fydd £75 neu £90 (yn dibynnu ar y math o gywiriad sydd ei angen)

Sylwer: Nid yw’r ffi yn sicrhau y gellir fynd ati gywiro.

Diwygiwyd Diwethaf: 23/03/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestryddion

Ffôn: 01495 742132

E-bost: registrars@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig