Oriau Agor Swyddfeydd dros Ŵyl y Banc

Cyfnodau Cau’r Swyddfeydd

Bydd yr holl adeiladau sydd ar agor i’r cyhoedd yn cau am 5pm ddydd Gwener 3 Mai 2024 ac yn ailagor ddydd Mawrth 7 Mai 2024.

Mae mwyafrif y pethau y gellir eu gwneud yn ein swyddfeydd, hefyd yn hawdd i’w gwneud ar lein. Mae ein ffurflenni ar lein ar gael yn yr adrannau Rhoi Gwybod a Gofyn ar y wefan.

Taliadau

Y ffordd gyflymaf a symlaf o dalu yw trwy ein llinell dalu awtomataidd ar 0300 4560516 neu gallwch dalu ar lein.

Os ydych ein hangen ar frys unrhyw bryd dros gyfnod yr ŵyl, rhowch alwad i ni ar 01495 762200.

Canolfannau Gofal Cwsmeriaid

Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Cwmbrân yn cau am 4:30pm ddydd Iau 2 Mai 2024 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Iau 9 Mai 2024.

Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Pont-y-pŵl yn cau am 4:30pm ddydd Mercher 1 Mai  2024 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mercher 8 Mai 2024.

Bydd Canolfan Gofal Cwsmeriaid Blaenafon yn cau am 4:30pm ddydd Mawrth 30 Ebrill 2024 a bydd yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 7 Mai 2024.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu

NI fydd newidiadau i ddiwrnodau casglu gan y byddwn yn casglu gwastraff ac ailgylchu fel arfer ar wyliau banc.

Sicrhewch fod eich gwastraff ac ailgylchu wrth ymyl y ffordd neu yn y man casglu erbyn 7am ar fore’r casgliad.

Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (CAGC)

Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Y Dafarn Newydd ar agor drwy gyfnod ŵyl y banc, fel y gellir gwaredu ar wastraff o’r cartref.

  • Dydd Llun - Dydd Sadwrn - 8am – 5.45pm
  • Dydd Sul - 9am – 5.45pm

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi didoli eich gwastraff a'ch eitemau ailgylchu cyn cyrraedd, ac os oes gennych fan neu os ydych yn fusnes, gwnewch yn siŵr bod gennych drwydded fan ddilys.

Siop Ailddefnydd The Steelhouse

Bydd Siop Ailddefnydd The Steelhouse yn Y Dafarn Newydd ar agor drwy gyfnod ŵyl y banc os hoffech gyfrannu neu brynu eitemau o ansawdd da.

Dyma’r amseroedd agor:

  • Dydd Llun i ddydd Sul - 9.30am - 4.30pm

Llyfrgelloedd

All libraries will be closed on Monday 6th May 2024.

Y Gwasanaeth Cofrestru

Bydd swyddfa Cofrestrydd Torfaen yn cau am 4:30pm ddydd Gwener 3 Mai ac yn ailagor am 9.00am ddydd Mawrth 7 Mai 2024.

Seremonïau

Cynhelir seremonïau drwy apwyntiad yn unig.

Cymorth y Tu Allan i Oriau Swyddfa / Mewn argyfwng

Os oes angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Cofrestru y tu allan i oriau am unrhyw rhai o’r rhesymau a ganlyn:

  • mater brys o ran seremoni sydd ar fin cael ei chynnal
  • claddedigaeth ffydd sydd angen ei chynnal o fewn 24 awr
  • priodas neu bartneriaeth sifil ar frys (os yw un cymar yn ddifrifol wael ac nad oes disgwyl iddo/iddi wella)

Rhowch alwad i wasanaeth tu allan i oriau mewn argyfwng yn Nhorfaen ar 01495 762200 a byddant yn trefnu i aelod o’r Tîm Cofrestru gysylltu â chi’n uniongyrchol.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/04/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig