Dod yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol

Sut gallaf ddod yn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol?

Cynhelir etholiadau ar gyfer pob un o'r 40 sedd ar y Cyngor bob 5 blynedd a bydd yr etholiadau Bwrdeistref gyfan nesaf ar gyfer y 18 Ward yn cael eu cynnal ym mis Mai 2027. Weithiau bydd sedd unigol mewn Ward yn dod yn wag yn ystod y cyfnod hwn. Cyhoeddir manylion am y rhain wrth iddynt ddigwydd.

Mae'r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau hyn yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Fodd bynnag, mae gan unrhyw un hawl i sefyll fel ymgeisydd cyn belled â'u bod yn bodloni'r prif gymwysterau.

Sut gallaf gael fy enwebu i fod yn Gynghorydd?

Mae'n rhaid i bob ymgeisydd gael ei enwebu gan bapur enwebu ar wahân.

Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig, byddai hefyd angen i chi gyflwyno tystysgrif gan swyddog enwebu'r blaid, yn awdurdodi eich ymgeisyddiaeth a'ch defnydd o ddisgrifiad ac arwyddlun y blaid.

Os ydych yn sefyll yn annibynnol, byddai'r papur pleidleisio naill ai'n eich disgrifio fel ymgeisydd "Annibynnol" neu ni fyddai'n rhoi unrhyw ddisgrifiad ohonoch o gwbl.

Mae'n rhaid i chi hefyd roi eich caniatâd yn ysgrifenedig ar gyfer eich enwebiad.

Mae'n rhaid i'r holl ddogfennau hyn gael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau erbyn canol dydd 19 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.

Nid oes angen blaendal i sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad awdurdod lleol.

Pa gymwysterau sydd eu hangen i fod yn Gynghorydd?

Dyma'r cymwysterau:

  • Mae'n rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf ar y diwrnod pleidleisio a'r diwrnod enwebu, ac mae'n rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon, y Gymanwlad neu aelod-wladwriaeth arall o'r Undeb Ewropeaidd.
  • Mae'n rhaid i chi hefyd fodloni o leiaf un o'r 4 cymhwyster canlynol:
    • (a) ar y diwrnodau hynny ac wedi hynny, bod yn etholydd llywodraeth leol ar gyfer ardal yr awdurdod; neu
    • (b) am y 12 mis cyfan cyn y diwrnod enwebu a'r diwrnod etholiad, bod yn ddeiliad neu'n denant unrhyw dir neu safle arall yn ardal yr awdurdod; neu  
    • (c) am y 12 mis cyn y diwrnod enwebu a'r diwrnod etholiad, bod eich prif neu unig weithle yn yr ardal honno, neu  
    • (ch) nid ydych wedi'ch anghymhwyso. 

A oes unrhyw anghymwysiadau?

Oes, a gallai'r rhain eich atal rhag bod yn ymgeisydd. Mae'r anghymwysiadau'n cynnwys y canlynol:

  • Gordal;
  • Arfer llwgr;
  • Unigolyn y dyfarnwyd ei fod yn fethdalwr; ac  
  • Sydd wedi'i ddedfrydu i gyfnod o 3 mis neu fwy o garchar yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; 
  • Methdalwyr.

Gallai rhai eithriadau fod yn berthnasol, felly dylech wirio'r sefyllfa'n ofalus cyn rhoi caniatâd i'ch enwebiad fel ymgeisydd.

Pa dâl allwn i ei ddisgwyl pe byddwn yn cael fy ethol?

Os ydych yn ystyried mynd amdani i gael eich ethol fel cynghorydd, mae'r daflen Taliadau i Gynghorwyr yn cynnig rhai ffeithiau ynghylch y taliadau y byddai gennych hawl i'w derbyn.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sefyll ar gyfer etholiad i'r Cyngor gan y Swyddog Canlyniadau:

Gwasanaethau Democrataidd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer unrhyw etholiadau i'r Cyngor, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl a byddwn yn anfon y manylion, y ffurflenni amrywiol a'r amserlen etholiadau manwl atoch pan fyddant ar gael.

Os ydych yn ystyried ceisio cael eich ethol i fod yn gynghorydd, mae Byddwch yn Gynghorydd, Sicrhewch Mai Chi yw’r Newid canllaw yn rhoi gwybodaeth ynghylch yr hyn y mae cynghorau a chynghorwyr yn ei wneud.

Rhaid i Gynghorwyr lynu at God Ymddygiad a byddant yn derbyn llawer o hyfforddiant, cyngor ac arweiniad ar yr hyn y mae'n ei olygu ar ôl iddynt gael eu hethol. Mae fideo byr gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru (sy’n ymchwilio i gwynion a hyrwyddo safonau ymddygiad uchel ledled Cymru) ar gael.

Mae mwy o fanylion (sy'n ymdrin â materion fel rôl eich asiant etholiadol, y gofynion cyfreithiol y mae'n rhaid i'ch deunydd ymgyrchu gydymffurfio â hwy, terfynau gwario eich ymgyrch, datgan eich treuliau a'ch rhoddion etholiadol) ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Diwygiwyd Diwethaf: 02/09/2022
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cofrestru Etholiadol

Ffôn: 01495 766077

E-bost: voting@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig