Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol

Rhyddid Gwybodaeth

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn rhoi hawl mynediad cyffredinol i wybodaeth a gedwir gan Awdurdodau Cyhoeddus ledled Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae Rhyddid Gwybodaeth yn caniatáu i bobl weld sut mae cyrff cyhoeddus yn gweithio ac yn caniatáu mynediad at wybodaeth i unrhyw berson neu sefydliad ledled y byd heb unrhyw angen iddynt ddatgan eu rheswm dros wneud cais amdani.

Mae yna ddau ofyniad ynghlwm wrth y Ddeddf:

  • Y gofyniad i'r Awdurdod ddatblygu a chynnal Cynllun Cyhoeddi; a
  • Y gofyniad i'r Awdurdod ymateb i unrhyw gais am wybodaeth o fewn ugain diwrnod gwaith yn y rhan fwyaf o achosion

Mae hyn yn annog mwy o agwedd agored ac atebolrwydd mewn awdurdodau cyhoeddus ac mae'n helpu i gynyddu lefelau ymddiriedaeth y cyhoedd.

Gwybodaeth Amgylcheddol

Bydd y Cyngor yn trin unrhyw gais am wybodaeth amgylcheddol o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 ("RhGA"). Mae'r RhGA yn debyg iawn i'r Ddeddf, am ei fod yn ofynnol i'r Cyngor ymateb i geisiadau am wybodaeth o fewn ugain niwrnod gwaith yn y mwyafrif o achosion, ac yn rhagweithiol o ran cyhoeddi gwybodaeth amgylcheddol. Byddai enghreifftiau o wybodaeth amgylcheddol y gallai'r Cyngor ei gadw, gynnwys gwybodaeth am gynllunio, rheoli gwastraff a llygredd.

Mae gwybodaeth am eich hawliau dan y Ddeddf a’r RhGA i’w chael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Pa wybodaeth sydd ar gael?

Mae'n ofynnol i'r Cyngor gynhyrchu a chynnal Cynllun Cyhoeddi. Pwrpas y Cynllun Cyhoeddi yw sicrhau bod cryn dipyn o wybodaeth ar gael heb yr angen i wneud cais penodol amdani. Nod y Cyngor yw cyhoeddi gwybodaeth sylfaenol yn rheolaidd ac i gyhoeddi gwybodaeth yn benodol lle mae budd y cyhoedd yn amlwg. Credwn y bydd hyn yn gwella'r cyfleoedd presennol i gael mynediad at ein gwybodaeth.

Mae'r Cynllun Cyhoeddi yn nodi:

  • Pa wybodaeth y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ei chyhoeddi neu’n bwriadu ei chyhoeddi fel mater o drefn
  • Sut y cyhoeddir y wybodaeth hon
  • Pa ffioedd, os o gwbl, a godir am y wybodaeth

Mae copi o’r Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth ar gael i’w lawr lwytho.

Os na allwch gael mynediad i'r Cynllun Cyhoeddi yn electronig, cysylltwch â'r tîm Rhyddid Gwybodaeth fydd yn gallu rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Mynediad i wybodaeth nad yw’n cael ei chyhoeddi

Os nad yw'r wybodaeth rydych ei heisiau ar gael drwy'r Cynllun Cyhoeddi yna gellir gofyn am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Gellir gwneud ceisiadau am wybodaeth amgylcheddol o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Rhaid cyflwyno ceisiadau dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn ysgrifenedig, ond gellir eu hysgrifennu, eu teipio neu eu hanfon fel e-bost.

Gellir cyflwyno ceisiadau dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar lafar, er ein bod yn annog ceisiadau ysgrifenedig o dan y ddeddfwriaeth hon i sicrhau bod gennym gymaint o fanylion â phosibl er mwyn chwilio am y wybodaeth a ofynnwyd amdano a darparu'r wybodaeth honno.

Dylid anfon ceisiadau ysgrifenedig i:

E-bost foi@torfaen.gov.uk

Neu drwy’r post at:

Rheolwr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

Neu fe allwch wneud Cais Unigol am Fynediad i Ryddid Gwybodaeth ar lein.

Yr hyn ddylech ei gynnwys yn eich cais

Wrth wneud cais rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth a ganlyn ar ein cyfer:

  • eich enw
  • cyfeiriad cyswllt (gall hyn fod yn gyfeiriad e-bost)
  • disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. A fyddech cystal â bod yn fanwl a holi am yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn hytrach na holi am ddogfennau llawn
  • y ffordd yr hoffech dderbyn yr wybodaeth – er enghraifft, os hoffech yr wybodaeth ar ffurf electronig neu os fyddai’n well gennych alw draw i weld y deunydd

Beth sy’n digwydd nesaf?

Os ydych yn cyflwyno cais, o dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn gyfreithiol o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, gwneir pob ymgais i'w roi cyn gynted â phosib.

A ellir gwrthod fy nghais?

Os na ellir rhyddhau'r wybodaeth y gofynnoch amdani oherwydd materion diogelu data neu, er enghraifft, os yw'r wybodaeth yn sensitif neu'n gyfrinachol, byddwn yn nodi'n glir y rhesymau dros wrthod y wybodaeth i chi. Neu os nad yw'r wybodaeth gennym, byddwn hefyd yn eich hysbysu ynglŷn â hyn.

A fydd rhaid i mi dalu?

Ein nod yw darparu cymaint o wybodaeth â phosib heb godi tâl arnoch. Fodd bynnag, lle mae'n cymryd cryn dipyn o amser neu ddeunydd i gasglu neu baratoi'r wybodaeth rydych ei heisiau, o dan Adran 12 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nid oes rhaid i'r awdurdod barhau â'ch cais os yw'n debygol o fod yn fwy na 18 awr.

Apeliadau a chwynion

Ein nod yw bod mor agored â phosib gyda'r wybodaeth a ddarparwn. Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo nad yw hyn yn wir, rhowch wybod i ni trwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad isod gan nodi'n glir beth yw'r mater. Byddwn yn ymdrechu i ddatrys unrhyw broblemau, gan gynnwys adolygiad o'n penderfyniad gwreiddiol. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, os cytunir bod y wybodaeth yn anghyflawn, byddwn yn ei chywiro.

Rheolwr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Y Ganolfan Ddinesig
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 6YB

E-bost foi@torfaen.gov.uk

Os ydych chi'n dal i fod yn anfodlon â'r ffordd y cafodd eich cais ei drin gan y Cyngor, cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Dyma'r manylion cyswllt :

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru), 2ail Lawr, Tŷ Churchill, Ffordd Churchill, Caerdydd, CF10 2HH. Rhif ffôn 0330 414 6421 neu e-bost wales@ico.org.uk

Neu ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Perfformiad

Perfformiad
 2017/182018/192019/202020/212021/222022/23

Cyfanswm y ceisiadau (RhG a RhGA)

935

1104

1039

814

870

892

Diwallwyd y terfyn amser 20 diwrnod

934

1102

1036

812

869

884

Ymateb hwyr

1

2

3

2

1

8

% Cydymffurfiad yn diwallu 20 diwrnod

99.9%

99.8%

99.71%

99.8%

99.9%

99.1%

Adolygiadau mewnol

5

5

4

3

5

4

% Ymatebir i adolygiadau mewnol o fewn 20 diwrnod  100%  100% 100%   100%  100% 100%

Cwynion i’r Comisiynydd Gwybodaeth

0

0

3

0

0

0

Addasiadau rhesymol a fformatau amgen

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal a bydd yn gwneud unrhyw addasiadau rhesymol sy'n ofynnol er mwyn:

  • ymateb i geisiadau mewn fformatau eraill; neu
  • darparu unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol

Os bydd angen gwybodaeth mewn fformat arall, fel Braille neu brint bras, cysylltwch â’r Tîm Rhyddid Gwybodaeth.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rhyddid Gwybodaeth

Ffôn: 01495 762200

E-bost: foi@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig