Maer Torfaen

Rôl y Maer

Cafodd swyddogaethau'r maer a'r dirprwy faer eu diddymu o'r cyngor ym Mai 2018 fel rhan o gyllideb 2018/19.

O ganlyniad, mae'r cyngor wedi diwygio ei gyfansoddiad ac wedi cymeradwyo creu Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol i gadeirio cyfarfodydd y cyngor.

O fis Mai 2018, bydd arweinydd y cyngor a'r aelodau cabinet yn ymgymryd â'r rolau a'r swyddogaethau a wneir fel arfer gan y maer.

Os hoffech i Arweinydd y Cyngor neu Aelod Gweithredol fynychu digwyddiad/achlysur yna nodwch eich yn ysgrifenedig chwe wythnos cyn dyddiad eich digwyddiad i democraticservices@torfaen.gov.uk.

Fe gewch gadarnhad ysgrifenedig os ydynt yn medru mynychu’r digwyddiad.

Cadwyni’r Swydd

The role of mayor has a special place in the history of the borough and the mayoral chains will remain the property of the council.

Cyflwynwyd y cadwyni i Faer a Maeres Torfaen, Y Cynghorydd a Mrs D B Richards, gan Mr G R Packer, Rheolwr Gyfarwyddwr Girling Limited. 

Roedd y Cynghorydd Richards yn gweithio i Girling Limited ers dros ddeuddeg mlynedd ar hugain. Ers 1948 roedd e’n Ysgrifennydd Cangen y A.E.W.U yng Nghwmbrân, a Chynullydd Undeb rhwng 1946 a’r cyfnod cyn iddo ymddeol yn Nhachwedd 1974.

Dyfarnwyd iddo Fedal Yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 1953. 

Cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Trefol Cwmbrân gynt ym 1956-1974. Yn ystod y cyfnod cafodd yr anrhydedd o fod yn Gadeirydd arno ddwywaith tan yr adrefnwyd Llywodraeth Leol. Unwyd Cyngor Dosbarth Trefol Cwmbrân a Chynghorau Pont-y-pŵl a Blaenafon gynt i ffurfio "Bwrdeistref Torfaen" yn Ebrill 1974.

Mae cadwyn y Maer wedi ei gwneud o Aur 18ct. Mae ganddi 34 o ddolenni, pob un ohonynt tua 5 modfedd o hyd. 

Mae cadwyn y Faeres wedi ei gwneud o Aur 18ct, ac mae tua 3 tr 6 mod o hyd. 

Mae cysyniad y ‘dyluniad’ wedi ei seilio ar Arfbais y Fwrdeistref sydd wedi ei ymgorffori mewn tlws grog a chadwyn wedi eu gwneud o ddefnyddiau lleol o Gymru ee Dur Gloyw Panteg a Glo Gwent. 

Gwnaed y tlws grog yn bennaf o Lo Cymreig wedi ei adffurfio gyda Dur Gloyw 18/8 yn gefn iddo. Mae’n cyfuno arwyddlun ac arwyddair y fwrdeistref  a gellir ei dynnu oddi ar y gadwyn ar gyfer achlysuron anffurfiol, a’i wisgo fel rhuban. 

Mae’r brif gadwyn wedi ei chreu o ddolennau dur gloyw a phaneli addurnol; un yn dangos motif yr “haul” ac un yn dangos hen Arfbais Torfaen a’r monogram 'TCB'. Ar gefn y gadwyn mae ffasnydd mawr ac mae’n portreadu Draig Cymru mewn coch ac aur.

Gwnaed y gwaith metel ar y ddwy gadwyn gan brentisiaid Gwaith B.S.C Panteg.

Mae’r dechneg o ailffurfio glo o ddiddordeb arbennig a datblygwyd y dull yn B.S.C. Mae’n golygu bod angen defnyddio glo du iawn - nid glo carreg - sydd yn cael ei falurio a’i sychu. Yna caiff ei gymysgu gydag epocsi neu resin ffenolig a’u gastio i’r siâp dewisol. Mae modd sgleinio neu ddefnyddio’r defnydd hwn mewn peiriant, ac ychwanegu gwydr ffibr ato i’w gryfhau.

Dyluniwyd y prosiect gan Harold Christie, Swyddog Dylunio a Chyflwyno B.S.C., Rhanbarth Cymru ar ran Rhanbarth Sheffield B.S.C.

Arfbais

Mabwysiadwyd yr arfbais swyddogol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar 29 Mai 1975.

Symbolaeth Gyffredinol:

Mae’r llinellau tonnog glas yn cynrychioli Afon Lwyd sydd yn llifo ar hyn Cwm Dwyreiniol Gwent, mae’r haul yn codi yn portreadu awdurdod newydd a’i diroedd; mae diemwntau du yn portreadu glo; ysgubau gwenith yn cynrychioli amaethyddiaeth y Fwrdeistref; daw’r bran o Gwmbrân (neu gwm y frân),a dyma yw arwyddlun traddodiadol y dref; mae’r ffiolau sydd ym mhigau’r brain yn portreadu gwaith Japan, un o ddiwydiannau mwyaf enwog yr ardal yn y gorffennol.

Disgrifiad Herodrol:

“The Arms are Quarterly Or and Gules overall a Fess Argent charged with two Barrulets wavy Azure first and fourth Quarter a Lozenge Sable charged with a Garb Or second and third Quarters a Crow wings addorsed proper holding in its dexter claw a Japanned vase Or the Crest on a Wreath Or and Azure issuant from a circlet of Garbs Or and Lozenges Sable rising behind a range of hills proper a Sun in splendour Or”.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd

E-bost: democraticservices@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig