Treuliau a Lwfansau Cynghorwyr

Mae’r dudalen hon yn dangos y treuliau a lwfansau a hawliwyd gan Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Torfaen.  Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn rheoleiddio'r symiau y mae'r Cynghorwyr yn eu hawlio.

Mae gan bob Cynghorydd hawl i’r lwfans sylfaenol (sy’n £16,800 ar hyn o bryd) i adlewyrchu eu gwaith fel cynrychiolwyr.

Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth wedi penderfynu bod gan rhai swyddi, er enghraifft, yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Aelodau’r Cabinet, Cadeiryddion Craffu a Phwyllgorau eraill fel Cynllunio a Thrwyddedu, gyfrifoldebau arbennig dros Gynghorwyr eraill.  Mae’r swyddi yma’n caniatáu i Gynghorwyr hawlio Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig.  Mae lwfans gofal ar gael hefyd i’r rheiny sydd â dibynyddion.

Mae treuliau teithio’n cael eu hawlio gan Gynghorwyr i dalu eu costau pan fyddan nhw’n teithio i ffwrdd o gartref neu o eiddo Torfaen ar fusnes y Cyngor (er enghraifft, os ydyn nhw’n mynychu seminarau Cymru gyfan neu gyfarfodydd Pwyllgor). Gellir hawlio treuliau eraill i dalu costau ar gyfer (er enghraifft) bwyd a diod sy’n angenrheidiol o ganlyniad i’w busnes ar ran y Cyngor.

Mae Torfaen yn cyhoeddi’r taliadau i gyd sy’n cael eu hawlio gan Gynghorwyr.   Mae Cynllun y Cyngor ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr yn cyflwyno’r lwfansau a threuliau y gellir eu hawlio. Mae’r Cynllun yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a’r penderfyniadau ar lwfansau mewn adroddiadau a gyhoeddir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Barn y Panel oedd eu bod yn ‘teimlo'n gryf y dylai rôl cynghorwyr ledled Cymru gael ei barchu fel rôl broffesiynol’. Mae copi o'r Hysbysiad Ynghylch Lwfansau Cynghorwyr i'w gael yma.

Gallwch lawr lwytho copi o dreuliau a lwfansau a hawliwyd isod:

Lawrlwythwch gopi o'r Aelodau tâl atodlen Aelodau Tâl Atodlen sy'n rhoi manylion yr hyn y gall aelodau hawlio yn y flwyddyn gyfredol.  which details what members can claim in the current year.

Mae nifer o Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen hefyd yn derbyn tâl am y gwaith y maen nhw'n ymgymryd ag ef wrth gynrychioli'r Cyngor ar gyrff cyhoeddus eraill. Mae’r cyrff fel a ganlyn:

Gellir gweld adran treuliau'r cyrff dan sylw trwy ddilyn y dolenni cyswllt uchod.  

Diwygiwyd Diwethaf: 21/07/2023
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Democrataidd

Ffôn: 01495 742577

Nôl i’r Brig