Cyfansoddiad Cyngor Torfaen
Ymhlith yr holl gynlluniau, strategaethau a chyhoeddiadau amrywiol eraill, Cyfansoddiad y Cyngor yw un o'i ddogfennau pwysicaf. Mae'r Cyfansoddiad yn amlinellu:
- yr egwyddorion sy'n sail i'r ffordd y mae'r Cyngor yn gweithio
- sut y mae dinasyddion yn ethol aelodau'r Cyngor ac, yn dilyn hynny, yn gallu cael mynediad at y Cyngor a'i amryw strwythurau gwneud penderfyniadau a dylanwadu arnynt
- yr hyn y mae aelodau'r Cyngor yn ei wneud (a sut y maent yn ei wneud, ynghyd â'u cyfrifoldebau o ran crebwyll ac ymddygiad da)
- sut y mae amryw "ganghennau" y Cyngor yn gweithio a sut y caiff cyfarfodydd eu trefnu a'u cynnal
- hawliau dinasyddion (er enghraifft, i gael gwybodaeth am y Cyngor)
- rôl swyddogion y Cyngor
- pwy yw pwy a phwy sy'n gwneud beth, a'r
- amryw reolau a rheoliadau, ymhlith pethau eraill.
Mae copi o Gyfansoddiad y Cyngor ar gael i'w lawrlwytho yma.
Mae Canllaw i’r Cyfansoddiad hefyd ar gael i’w lawr lwytho yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, a fyddech cystal â ffonio 01495 762200 a gofyn i siarad â’r Gwasanaethau Democrataidd. Neu, fe allwch anfon e-bost i democraticservices@torfaen.gov.uk.
Diwygiwyd Diwethaf: 09/09/2022
Nôl i’r Brig