Cynghorau Tref a Chymuned

Cynghorau cymuned a thref yw lefel sylfaenol llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae dros 730 o gynghorau cymuned a thref ledled Cymru. Mae rhai yn cynrychioli poblogaethau o lai na 200 o bobl, eraill yn cynrychioli poblogaethau o dros 45,000 o bobl; ond maent i gyd yn gweithio i wella ansawdd bywyd a'r amgylchedd i ddinasyddion yn eu hardal.

Mae cynghorau cymuned a thref yn atebol i bobl leol ac mae ganddynt ddyletswydd i gynrychioli buddiannau cyfartal i wahanol rannau o'r gymuned

Mae tua 8,000 o bobl yng Nghymru yn rhoi gwasanaeth gwirfoddol fel cynghorwyr cymuned a thref. I rai, y gwaith hwn yw'r cam cyntaf tuag at yrfaoedd gwleidyddol ar lefelau uwch mewn llywodraeth leol neu genedlaethol.

Y 6 cynghorau cymuned a thref yn seiliedig yn Nhorfaen yw:

  • Cyngor Tref Blaenafon
  • Cyngor Cymuned Croesyceiliog a Llanyrafon
  • Cyngor Cymuned Cwmbrân
  • Cyngor Cymuned Henllys
  • Cyngor Cymuned Ponthir
  • Cyngor Cymuned Pont-y-pŵl

Mae manylion cyswllt ar gyfer y cynghorau cymuned a thref yn Nhorfaen ar gael yma.

Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaethau Aelodau

Ffôn: 01495 762200

Ebost: democraticservices@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig