Newyddion Diweddaraf y Prosiect
Awst 2011
Mae'r cynnydd wedi parhau i fod yn dda gyda'r gwaith yn parhau i gyrraedd y targed. Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol wedi ymweld a'r adeilad ac mae'r canlyniadau yn eu plesio'n fawr. Rydym yn hynod falch i gadarnhau y bydd y disgyblion yn medru defnyddio'r bloc dysgu newydd pan fydd yr ysgol yn ailddechrau ym mis Medi. Mae cynnydd y gwaith datblygu i'w weld ddilyn y ddolen 'Ffotograffau o'r Cynnydd' ar y chwith.
Mae'r contractwr, Kier Western, wrthi'n brysur yn paratoi ar gyfer cam nesaf y prosiect, sef adeiladu bloc dysgu a neuadd fwyta newydd a fydd yn cynnwys y ffreutur newydd a'r gegin gyda'i gilydd a dosbarthiadau celf a drama i'r gogledd o brif floc presennol yr ysgol.
Mehefin 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda, a'r dyddiad cwblhau a rhagwelir, sef Gorffennaf, yn parhau i fod ar darged. Gellir gweld y cynnydd hyd yn hyn trwy ddilyn y ddolen 'lluniau o'r cynnydd' ar y chwith.
Mai 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda, a'r dyddiad cwblhau a rhagwelir, sef Gorffennaf, yn parhau i fod ar darged. Gellir gweld y cynnydd hyd yn hyn trwy ddilyn y ddolen 'lluniau o'r cynnydd' ar y chwith.
Yn ystod gwyliau Sulgwyn, ymgymerwyd â gwaith ailwampio pellach yn adeilad yr ysgol bresennol a Bloc Lilian Jones er mwyn bwrw ymlaen â 'r mynediad i'r coridor cyswllt a'r bloc dysgu newydd. Cafodd lifft llwyfan hefyd ei osod ym mhrif neuadd yr ysgol, er mwyn caniatáu i'r sawl sy'n defnyddio cadeiriau olwyn gael gwell mynediad i'r llwyfan a'r ffreutur bresennol.
Ychydig iawn a fynychodd y noson i drigolion a gynhaliwyd ar y 19eg o Fai 2011 a ni chynhelir unrhyw nosweithiau pellach i drigolion ar gyfer Ail Gam y gwaith. Yn ystod mis Mehefin bydd safle caeedig y contractwr ar gyfer ail gam y gwaith yn dechrau cael ei ddatgomisiynu yn ystod Mehefin ac erbyn yr Hydref, fe fydd wedi ei ddymchwel yn gyfan gwbl, a thir a chaeau chwarae'r ysgol yn cael eu hadfer.
Anfonwyd llythyr| i'r trigolion hynny sy'n byw agosaf at gam nesaf y gwaith adeiladu a chynhelir noson yn arbennig ar eu cyfer ym mis Medi. Cyhoeddir y manylion yn y man.
Ebril 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda, a'r dyddiad cwblhau a rhagwelir, sef Gorffennaf, yn parhau i fod ar darged. Gellir gweld y cynnydd hyd yn hyn trwy ddilyn y ddolen 'lluniau o'r cynnydd' ar y chwith.
Ar y 14eg o Ebrill, cynhaliwyd seremoni fach i blannu coed i ddathlu diwedd Cyfnod Un y gwaith - sef maes parcio'r bysiau ar y safle.
Yn ystod gwyliau'r Pasg gosodwyd prif linell nwy a chysylltwyd y dwr. Roedd hyn yn golygu bod angen cyfyngu mynediad cerbydau i'r safle ar wahanol amserau ar wahanol adegau. Roedd yna fynediad i gerddwyr a hawl dramwy drwy gydol yr amser.
Ymgymerwyd â'r gwaith mewn tri cham ac mae'r dolenni a ganlyn yn darparu braslun sy'n dangos sut yr effeithiwyd ar fynediad i gerbydau:
Hefyd yn ystod gwyliau'r Pasg, parhawyd â 'r gwaith o 'uno' adeiladau presennol yr ysgol â 'r coridor newydd sy'n cysylltu â Bloc Lilian Jones. Ychwanegwyd coridorau newydd i adeilad presennol yr ysgol, a fydd yn y pendraw yn arwain i'r coridor cyswllt newydd.
Ar y 19eg o Fai am 6.30yh, bydd y contractwr, Kier Western yn cynnal noson arall i drigolion sydd yn byw yn agos i'r datblygiad a bydd cyfle iddynt holi unrhyw gwestiynau yn ei gylch. Dosbarthwyd taflen| i gartrefi cyfagos.
Mawrth 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda, gyda mwyafrif y gwaith allanol bron a'i gwblhau. Mae'r waliau mewnol a'r lloriau hefyd bron a'u cwblhau. Mae'r gwaith mecanyddol a thrydanol yn dod yn ei flaen yn dda ac mae'r gwaith allanol ar y ganolfan ynni eisoes wedi ei gwblhau. Unwaith eto gellir gweld y lluniau diweddaraf trwy ddilyn y cyswllt ar y chwith.
Chwefror 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda, gyda'r bricwaith, y to, y draeniad, y ganolfan ynni, wal gynnal y ganolfan ynni a'r gwaith mecanyddol a pheirianegol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae cyfle unwaith eto i weld y lluniau diweddaraf drwy glicio'r cyswllt ar y chwith.
Gosodwyd y prif gyflenwad dwr i atal tân yn y Ganolfan Ynni yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Fe fydd y prif gyflenwadau eraill yn cael eu gosod yn ystod Gwyliau'r Pasg.
Fe wnaeth myfyrwyr sy'n dilyn cwrs BTEC mewn adeiladwaith yn yr ysgol ymweld â'r safle yn ystod y mis i gael golwg uniongyrchol ar y dulliau adeiladu a chael cyfle i holi cwestiynau i'r contractwyr. Fe wnaeth yr adeilad greu argraff go iawn, yn enwedig lled y grisiau a'r coridorau.
Ionawr 2011
Mae'r cynnydd yn parhau i fod yn dda er bod y tywydd oer wedi effeithio ar gynnydd y to a'r 'bricwaith. Fodd bynnag, ar y cyfan, rhagwelir y bydd y bloc dysgu yn cael ei orffen ar amser. Gellir gweld y lluniau diweddaraf wrth ddilyn y cyswllt 'lluniau o'r cynnydd' ar y chwith.
Mae'r draeniau allanol yn cael eu gosod, yn ogystal â'r llofftydd golau ar y lefel uchel. Maent wrthi'n cwblhau'r gosodiadau mecanyddol cyntaf (plymio a gwres) a'r trydan (prif gyflenwad pwer ac ati).
Mae sylfeini'r ganolfan ynni wedi eu cwblhau ac maent wrthi'n adeiladu'r adeilad. Mae yna fricwaith yn cael ei adeiladu i orchuddio'r wal gynnal wrth i'r tywydd ganiatáu.
Yn ystod mis Ionawr, fe aeth disgyblion Blwyddyn 7 ati i blannu bylbiau - maent wedi plannu ar ffurf 'G' fawr ar gyfer Gwynllyw, felly wrthi i chi agosáu at yr ysgol yn y gwanwyn fe fydd yna doreth o gennin Pedr yn eich croesawu. Trefnwyd y digwyddiad hwn gan Kier Western a wnaeth hefyd ddarparu'r bylbiau a'r offer garddio.
Fe dderbyniodd y dosbarthiadau technoleg defnyddiau gwrthiannol (gwaith coed a gwaith metel) dderbyn offer yn rhodd gan Kier Western, a darparwyd baent ac offer i'r adran gelf er mwyn cychwyn ar brosiect celf i addurno'r byrddau o gwmpas y gwaith adeiladu ledled y safle.
Rhagfyr 2010
Mae'r cynnydd dal i fod yn dda er gwaetha'r tywydd oer diweddar, ac ar y cyfan mae'r rhaglen yn parhau i fod ar amser. Gellir gweld y lluniau diweddaraf drwy ddilyn y ddolen 'ffotograffau o'r cynnydd' ar y chwith.
Mae'r bricwaith mewnol ac allanol, y gwaith ar y draeniau a'r to i gyd wedi cychwyn a rhagwelir y bydd yr adeilad gan fwyaf yn medru gwrthsefyll dwr erbyn y Nadolig, felly'n caniatáu'r gwaith o osod y gwasanaethau mecanyddol (y plymio a'r gwres) a'r trydan (prif bwer ac ati) i gychwyn ar ddechrau'r flwyddyn newydd.
Mae waliau cynnal y ganolfan ynni wedi eu cwblhau,ac mae'r gwaith o osod yn sylfeini yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, gyda'r adeilad ei hun yn cael ei adeiladu ar ddechrau'r Flwyddyn Newydd.
Cynhaliwyd y noson agored| gyntaf i drigolion ar 2 Rhagfyr 2010. Mae noson agored arall ar y gweill ym mis Mawrth 2011. Mae'r nosweithiau agored yn rhoi cyfle i drigolion sy'n byw ger y datblygiad glywed am y cynnydd a chodi unrhyw bryderon neu faterion. Fe fydd taflen wybodaeth yn hysbysebu'r digwyddiad hwn yn cael ei dosbarthu i eiddo cyfagos a bydd copi hefyd yn ymddangos ar y wefan hon.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglyn â'r safle yn ystod gwyliau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, neu os digwydd i chi weld unrhyw beth amheus, ffoniwch y cyngor ar 01495 762200. Fe fydd gan y cyngor rhestr o rifau i gysylltu â hwy mewn argyfwng ac fe allan nhw basio unrhyw wybodaeth neu bryderon ymlaen i'r bobl berthnasol. Mewn achos difrifol, neu sefyllfa a allai achosi niwed, ffoniwch yr heddlu'n uniongyrchol.
Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda!
Hydraf 2010
Mae gwaith adeiladu'r bloc dysgu yn mynd yn ei flaen yn dda ac ar darged i'w gwblhau ym mis Gorffennaf 2011, fel y nodir yn y rhaglen. Gellir gweld y lluniau diweddaraf drwy ddilyn y ddolen 'ffotograffau o'r cynnydd' ar y chwith.
Mae'r gwaith ar seiliau'r bloc dysgu newydd wedi ei gwblhau erbyn hyn ac mae'r strwythur dur, y grisiau concrid a'r coridor cyswllt yn eu lle. Mae'r gwaith o osod lloriau concrid a draeniad yn mynd yn ei flaen. Bydd y to yn cael ei osod yn ystod y ddeufis nesaf.
Mae'r gwaith ar y ganolfan ynni newydd, sydd yn cael ei hadeiladu rhwng y cabanau presennol a Chanolfan Bowden hefyd yn cadw at yr amserlen. Adeiladwyd y wal gynnal eisoes a bydd y gwaith adeiladu'r Ganolfan Ynni ei hun yn cychwyn yn fuan.
Mae'r safle fysiau newydd ar dir yr ysgol yn gweithio'n dda iawn, sy'n ei gwneud hi'n hawdd o lawer i ddisgyblion a staff wrth iddynt fuan tua thref. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i'r safle fysiau newydd gan y gymuned hyd yn hyn a gobeithiwn felly bod hyn wedi lleihau rhai o'r anawsterau a gafwyd yn y gorffennol.
Mae'r contractwr yn bwriadu cynnal noson agored ar ddechrau mis Rhagfyr er mwyn rhoi cyfle i drigolion cyfagos holi unrhyw gwestiynau neu ddatgan pryderon am y datblygiad. Bydd manylion pellach yn ymddangos ar y wefan hon pan fydd y dyddiad, amser a'r lleoliad wedi eu trefnu.
Gorffennaf/Awst 2010
Mae'r gwaith adeiladu'n symud ymlaen yn dda a'r gwaith gosod y sylfaen yn parhau.
O 31ain o Orffennaf hyd 7fed o Awst, roedd gan y prosiect stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol, drws nesaf i stondin yr ysgol, yn amlygu'r gweithio ar y cyd o fewn addysg yn Ne Ddwyrain Cymru, Yr addysg gynradd Gymraeg sydd ar gael ym mhob awdurdod a'r estyniad ac ailwampio YGG.
Roedd cynrychiolwyr o Gynghorau Flaenau Gwent, Casnewydd a Thorfaen, a Kier Western yn gweithio ar y stondin. Darparwyd Gwobrwyon ac anrhegion gan Kier Western, Contractwyr ar gyfer y datblygiad yn YGG, ar gyfer dwy gystadleuaeth plant.
Gwnaeth 'Ivor GoodSite', masgot diogelwch safle adeiladu, ymddangosiad poblogaidd iawn ar nifer o ddiwrnodiau!
Mehefin 2010
Mae'r gwaith adeiladu bellach yn mynd rhagddo, a hynny'n swyddogol, gyda'r gwaith paratoi ar gyfer y sylfeini, a'r sylfeini eu hunain wrthi'n cael eu gosod. Bydd ffotograffau o'r cynnydd yn ymddangos yn fisol ar y wefan – dilynwch y cyswllt ar y chwith.
Mae'r materion ynghylch y maes parcio i fysiau wedi cael eu datrys erbyn hyn a bu'r arbrawf a gynhaliwyd â bws lawn yn llwyddiannus. Bydd cwmnïau bysiau yn cael cyfleoedd i ymarfer yn ystod gwyliau'r haf a bydd y maes parcio i fysiau yn holl weithredol o fis Medi.
Mai 2010
Ar ddydd Llun y 24ain o Fai, cynhaliwyd seremoni torri tywarchen i gydnabod dechrau'r gwaith adeiladu. Yn bresennol oedd Leighton Andrews Aelod Cynulliad dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. Hefyd yn bresennol oedd uwch gynrychiolwyr yr awdurdodau hynny sy'n cyfrannu'n ariannol tuag at yr estyniad a'r prosiect ailwampio, uwch gynrychiolydd o'r ysgol, cynrychiolwyr corff llywodraethu'r ysgol, RHAG a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Cwblhawyd y maes parcio newydd i fysiau ar yr 28ain o Fai. Nodwyd dau fater gan y Cyngor a oedd angen eu datrys cyn i'r ysgol fedru ei ddefnyddio'n swyddogol. Mi fydd angen tua 6 wythnos i ddatrys y materion, ac yn dilyn trafodaethau gyda'r ysgol, cytunwyd y bydd y maes parcio i fysiau yn weithredol o fis Medi.
Ebrill 2010
Trosglwyddwyd yr iard galed newydd i'r ysgol yng nghanol Ebrill fel y bwriadwyd. Aeth y gwaith rhagddo ar y safle bysiau newydd ar dir yr ysgol a fydd yn cael ei drosglwyddo yn ystod yr wythnos yn dechrau 24 Mai, a chyn hanner tymor. Felly fe fydd y safle bysiau yn cael ei ddefnyddio pan ddychwela'r plant wedi gwyliau'r Sulgwyn.
Dechreuwyd paratoi'r safle ar gyfer Ail Gam y gwaith adeiladu, sef y bloc dysgu newydd, ar 26 Ebrill ac mae'n parhau. Mi fydd y gwaith adeiladu yn cychwyn o ddifri ym mis Mai. Rhagwelir y bydd y rhaglen yn parhau am ychydig dros flwyddyn ac ar hyn o bryd disgwylir y bydd y bloc dysgu newydd yn barod i'w ddefnyddio ym mis Medi 2011.
Mawrth 2010
Ar 9 Mawrth 2010, rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn i ymestyn ac ailwampio Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Y bloc dysgu newydd fydd y cyntaf i gael ei adeiladu i'r gorllewin o adeiladau presennol yr ysgol. Bydd gwaith adeiladu'r bloc dysgu newydd yn cychwyn ganol mis Mai ac yn parhau ychydig dros flwyddyn.
Cyn mynd ati i ddechrau'r gwaith adeiladu bydd y contractwr Kier Western yn paratoi'r safle adeiladu drwy sefydlu swyddfeydd ac unedau lles.
Bydd gwybodaeth am y safle yn ymddangos ar y wefan cyn hir|.
Chwefror 2010
Cynhaliwyd y digwyddiad cynllunio ar gyfer y cyhoedd ar 1 Chwefror a gyrrwyd yr holl sylwadau a ddaeth i law at y Swyddog Cynllunio. Mae'r cais ar fin cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio ar y 9fed o Fawrth, sy'n agored i aelodau'r cyhoedd sydd am fynychu. Cynhelir y cyfarfod sydd yn dechrau am 4pm yn Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Pont-y-pwl. Os rhoddir caniatâd cynllunio yn ystod y cyfarfod, mi fydd gwaith adeiladu'r bloc dysgu newydd yn cychwyn ganol mis Mai.
Mae'r tywydd garw ym mis Tachwedd, Rhagfyr, Ionawr a Chwefror wedi effeithio ar gynnydd Cam Un. Fe fydd y maes parcio newydd i fysus yn cael ei gwblhau yng nghanol Mai ac nid ar ddiwedd Mawrth fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Fe fydd yr holl eitemau eraill sy'n ymwneud â Cham Un hefyd yn cael eu cwblhau o fewn y raddfa amser hon. Mae'r gwaith o osod draeniau yn y cae chwarae, a gwaith adeiladu'r iard galed newydd y tu cefn i adeilad Lilian Jones, eisoes ar waith.
Rhagfyr 2009
Cyflwynwyd a chofrestrwyd y cais cynllunio llawn. Bydd cyfnod ymgynghori o wyth wythnos yn dilyn, a rhagwelir y bydd y cais yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio ym mis Mawrth 2010.
I ategu at y broses cynllunio statudol, cynhelir digwyddiad cynllunio cyhoeddus yn yr ysgol a fydd yn galluogi trigolion, rhieni ac eraill i weld y cais cynllunio a chynnig unrhyw sylwadau a fydd yn cael eu cyflwyno gerbron y Swyddog Cynllunio i'w hystyried. Mae'r digwyddiad cynllunio cyhoeddus yn cael ei drefnu ar hyn o bryd a bydd y manylion yn cael eu harddangos ar y wefan hon a'u hysbysebu'n eang drwy daflenni| gwybodaeth a chylchlythyrau cymunedol.
Gallwch weld y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o'r cais cynllunio yma -
cynllun o'r safle|, bloc dysgu llawr isaf|, bloc dysgu llawr cyntaf|, ystafell fwyta llawr isaf|, ystafell fwyta llawr cyntaf|
Wythnos yn dechrau 9 Tachwedd 2009
Cafodd y maes parcio newydd ei drosglwyddo i'r ysgol.
12 Hydref 2009
Dechreuodd Gwedd Gyntaf y Gwaith Adeiladu.
4 Medi 2009
Ychwanegwyd tair ystafell ddosbarth arall y gellir eu datgymalu er mwyn bodloni’r galw am leoedd yn 2009.
3 Medi 2009
Penderfynodd yr Aelod Gweithredol dros Blant a Phobl Ifanc y dylai’r estyniad a’r gwaith ailwampio fynd yn ei flaen.
25 Awst 2009
Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y parc bysus, lle parcio ychwanegol, llawr caled newydd i chwarae ynghyd ag atgyweirio’r caeau chwarae presennol (Y Wedd Gyntaf).
20 Gorffennaf 2009
Fe ddaeth y cyfnod gwrthwynebu statudol i ben. Er bod rhai gwrthwynebiadau wedi dod i law yn ystod yr ymgynghoriad ffurfiol, ni chafwyd unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod gwrthwynebu statudol, a oedd yn golygu y gallai’r mater gael ei benderfynu gan yr Aelod Gweithredol dros Blant a Phobl Ifanc yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.