Skip Navigation1 - Home Page| 2 - News| 3 - Site Map| 4 - Search| 5 - A to Z| 6 - Help| 7 - Complaints Procedure| 8 - Information Rights| 9 - Contact Us| 0 - Access key details|
You are here: Home > Education & Learning > Ysgol Gyfun Gwynllyw Extension Project > Cymraeg > Ysgol Gyfun Gwynllyw

Ysgol Gyfun Gwynllyw

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wedi bod yn gweithio tuag at ail-lunio, ailwampio ac ehangu Ysgol Gyfun Gwynllyw yn sylweddol er 2007.

 

Mae Ysgol Gyfun Gwynllyw mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru, lle bo un ysgol yn gwasanaethu gymaint o awdurdodau addysg lleol. Mae dros hanner y disgyblion sy’n mynychu’r ysgol yn byw y tu allan i Dorfaen. Mae wedi bod yn cynnig Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg o ansawdd da i ardal Gwent Gyfan ers dechrau’r 1990au, ond mae pob un o’r pedwar awdurdod nawr wedi cydnabod bod angen iddynt fuddsoddi ar y cyd i wella safle’r ysgol ac mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau bod anghenion y presennol a’r dyfodol yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf cost effeithiol.

 

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â dymuniadau’r rhieni. Y nod yw sicrhau na chaiff unrhyw blentyn ei wrthod i Ysgol Gyfun Gwynllyw yn y tymor byr i ganolig, yn ogystal â gwella’r amgylchedd dysgu/addysgu, a gwella’r canlyniadau addysgol i ddisgyblion.

 

Cyfanswm y buddsoddiad yn yr ysgol fydd £12.1m, a ariennir ar y cyd gan y pedwar awdurdod addysg, ac a gynorthwyir â grant o £3m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r cytundeb ariannu gydag awdurdodau eraill yn ddigynsail yn nhermau prosiectau cyfalaf, a’r gobaith yw y bydd yn arwain y ffordd ar gyfer mentrau ar y cyd rhwng awdurdodau lleol yn y dyfodol, yn enwedig yn nhermau addysg.

 

Computer generated image of how the teaching block may look (opens in new window)

 

Nod y buddsoddiad hwn yn bennaf fydd cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol i 1,100 o ddisgyblion trwy adeiladu dau floc parhaol newydd a chael gwared ar yr adeiladau y gellir eu datgymalu, a bydd hefyd yn mynd i’r afael â gwaith ailwampio brys ar y prif adeiladau sydd yno’n barod. Er bod y buddsoddiad yn un sylweddol, nid yw’n ddigon i ymdrin â holl anghenion yr ysgol, felly cytunwyd ar raglen flaenoriaeth sy’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd addysgol i’r disgyblion yn ogystal â’r staff.

 

Computer generated image of how the new Dining Block may look

 

A-Z of Services

A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K | L | M | N | O | P | Q | R | S | T | U | V | W | X | Y | Z |
 

Contact Us

Ysgol Gyfun Gwynllyw Project Team

Tel: 01495 742613

Email: YGG Project Team|