Cwestiynau Cyffredin
Beth ydych chi’n gobeithio’i gyflawni?
Ehangu ac ail-lunio safle presennol yr ysgol er mwyn cynyddu nifer y lleoedd yn yr ysgol i 1,100 er mwyn bodloni’r galw cyfredol a’r hyn a ragwelir yn y dyfodol.
Beth fydd yn newid i fy mhlant i?
Bydd y gwelliannau’n golygu y bydd y disgyblion yn elwa ar gyfleusterau llawer iawn gwell fydd yn gwella’r amgylchedd dysgu/addysgu i gymuned yr ysgol gyfan.
Pryd fydd hyn yn debygol o ddigwydd?
Ymgymerir â’r prosiect dros bedair gwedd –
-
Y Wedd Gyntaf (Hydref 2009 – Mawrth 2010): adeiladu maes parcio i fysus ar y safle, llawr caled newydd i chwarae, sianeli draenio mawr, lle parcio ychwanegol i geir ar y safle ac atgyweirio’r caeau chwarae presennol;
-
Yr Ail Wedd (Ebrill 2010 hyd y Gwanwyn/Haf 2011): adeiladu bloc dysgu newydd i ddal 14 o ystafelloedd dosbarth a nifer o ystafelloedd ategol eraill i’r gorllewin o brif floc presennol yr ysgol, fydd yn cael ei osod ar y llawr caled presennol;
-
Y Drydedd Wedd (Gwanwyn/Haf 2011 hyd y Gwanwyn/Haf 2012): cael gwared ar yr ystafelloedd dosbarth y gellir eu datgymalu ac adeiladu bloc dysgu a bwyta newydd fydd yn cynnwys y neuadd fwyta a’r gegin newydd ynghyd â dosbarthiadau celf a drama i’r gogledd o brif floc presennol yr ysgol;
-
Y Bedwaredd Wedd (Ebrill 2010 hyd y Gwanwyn/Haf 2013): gwaith ailwampio ar brif adeilad yr ysgol fel sy’n angenrheidiol ac yn fforddiadwy i greu cysylltiadau â’r blociau newydd ynghyd ag ymgymryd â gwaith cynnal a chadw blaenoriaeth.
A fydd y disgyblion a’r staff yn ddiogel â chymaint o waith adeiladu yn digwydd o’u cwmpas? A fydd hyn yn amharu ar rediad yr ysgol?
Bydd yr Awdurdodau’n gweithio’n agos iawn â’r ysgol i sicrhau yr amherir ar bawb cyn lleied â phosibl.
Yn nhermau Iechyd a Diogelwch, bydd yr agwedd hon yn rhan bwysig o’r broses gynllunio. Mae gan Dorfaen a’i gontractwyr partner, ynghyd ag Awdurdodau Gwent Gyfan eraill, lawer iawn o brofiad o ddelio â gwaith adeiladu ar safleoedd lle mae’r ysgolion yn dal i weithredu, a bydd yn gydymdeimladol ac yn ystyriol o anghenion yr ysgol yn ei gweithrediadau o ddydd i ddydd.
Sut ydw i’n mynd ati i wneud cais i’m plentyn gael mynychu’r ysgol hon?
Ewch i brif wefan yr ysgol yn: www.gwynllyw.org|
Beth fydd yn digwydd i’r clwb ieuenctid sydd ar y safle ar hyn o bryd?
Bydd llety’r clwb ieuenctid yn cael ei symud ar y safle mewn ymgynghoriad, a gyda chytundeb, y Gwasanaeth Ieuenctid.