Y Datblygiad
Mae’r cynlluniau cyfredol| yn edrych ar bob un o faterion adeiladu’r ysgol bron, mae’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o le hyblyg ac mae’n fforddiadwy. Bydd yr estyniad a’r ailwampiad yn cynnwys:
-
Adeiladu neuadd fwyta newydd fel bod yr ysgol gyfan yn gallu eistedd gyda’i gilydd ar ddau eisteddiad. Nid yw’r neuadd fwyta bresennol ond yn dal 75 o ddisgyblion, er bod 924 ar y gofrestr ar hyn o bryd;
-
Darparu lle hyblyg a pharhaol ar gyfer ystafelloedd dosbarth (ar hyn o bryd mae pymtheg o ystafelloedd dosbarth mewn caban symudol y gellir ei ddatgymalu);
-
Cynyddu’r lle sydd ar gael fel swyddfa ac i rieni gyfarfod yn gysylltiedig â’r nifer gynyddol o athrawon;
-
Cynyddu’r lle storio sydd ar gael i ddisgyblion trwy ddarparu cloeriau iddynt, un cloer i bob disgybl os oes modd;
-
Cynyddu’r cyfleusterau toiledau a’u gwella ar gyfer y disgyblion yn ogystal â’r staff, gan gynnwys cyfleusterau glendid personol i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol;
-
Gwella Mynediad Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd i’r ysgol gyfan;
-
Creu amgylchedd dysgu ac addysgu sy’n fwy cynhwysol;
-
Darparu lle i’w ddefnyddio gan ddisgyblion y chweched dosbarth;
-
Gwella llif disgyblion trwy ddarparu cysylltiadau mewnol rhwng adeiladau, ynghyd â choridorau a drysau lletach;
-
Pennu cyfleusterau meddygol rhesymol (ar hyn o bryd, mae’n rhaid i ddisgyblion sy’n sâl eistedd yn y brif dderbynfa);
-
Cynyddu’r lle ar gyfer gwersi cerdd peripatetig.
Bydd y prosiect hefyd yn mynd i’r afael â mater tagfeydd traffig sy’n cael ei achosi gan fysus ysgol, ac fe wneir hynny drwy adeiladu maes parcio i fysus ar y safle.
Bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen mewn pedair gwedd:
-
Y Wedd Gyntaf (Hydref 2009 – Mawrth 2010): adeiladu maes parcio i fysus ar y safle, llawr caled newydd i chwarae, sianeli draenio mawr, lle parcio ychwanegol i geir ar y safle ac atgyweirio’r caeau chwarae presennol;
-
Yr Ail Wedd (Ebrill 2010 hyd y Gwanwyn/Haf 2011): adeiladu bloc dysgu newydd i ddal 14 o ystafelloedd dosbarth a nifer o ystafelloedd ategol eraill i’r gorllewin o brif floc presennol yr ysgol, fydd yn cael ei osod ar y llawr caled presennol;
-
Y Drydedd Wedd (Gwanwyn/Haf 2011 hyd y Gwanwyn/Haf 2012): cael gwared ar yr ystafelloedd dosbarth y gellir eu datgymalu ac adeiladu bloc dysgu a bwyta newydd fydd yn cynnwys y neuadd fwyta a’r gegin newydd ynghyd â dosbarthiadau celf a drama i’r gogledd o brif floc presennol yr ysgol;
-
Y Bedwaredd Wedd (Ebrill 2010 hyd y Gwanwyn/Haf 2013): gwaith ailwampio ar brif adeilad yr ysgol fel sy’n angenrheidiol ac yn fforddiadwy i greu cysylltiadau â’r blociau newydd ynghyd ag ymgymryd â gwaith cynnal a chadw blaenoriaeth.
Bydd atebion ynni cynaliadwy yn cael eu cyflwyno, pethau megis canolfan ynni ganolog fydd yn darparu gwres ac ynni i’r blociau newydd. Fe ddarperir ynni i’r blociau presennol o’r ganolfan ynni unwaith y bydd eu systemau cyfredol yn rhoi’r gorau i fod yn effeithlon.
Mae dyluniad yr ysgol yn hyblyg er mwyn gallu cyflwyno amgylchedd TG mwy pan fydd arian yn caniatáu hynny, a bwriedir parhau i fuddsoddi yn yr ysgol os, a phan, bydd arian ar gael yn y dyfodol.
Ymgynghorwyd eisoes â’r disgyblion, staff, llywodraethwyr ac ysgolion cynradd bwydo, a bwriedir ymgynghori yn fwy eang yn y gymuned parthed y cynllun fel rhan o’r broses gynllunio. Y bwriad yw cyflwyno cais cynllunio yn nes ymlaen eleni. Petaech yn dymuno cyflwyno sylwadau ar y cynlluniau cyn y broses gynllunio ffurfiol, mae’n bosibl i chi fwrw golwg drostynt ar y wefan hon ac anfon e-bost at y Rheolwr Prosiect| yn dana.eynon@torfaen.gov.uk.
Yn nhermau’r galw am addysg ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn yr hirdymor, ceisir ateb sy’n debygol o olygu datblygu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg arall ar gyfer ardal ehangach Gwent. Ar hyn o bryd, mae union leoliad yr ysgol hon wrthi’n cael ei ystyried gan Gyfarwyddwyr Addysg De Ddwyrain Cymru.